5.8 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home Newyddion Lle TYWYSOG CYMRU YN SIARAD Â PHRIF WEINIDOG CYMRU

TYWYSOG CYMRU YN SIARAD Â PHRIF WEINIDOG CYMRU

0
469
image 16
image 16

Siaradodd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a Phrif Weinidog Cymru dros y ffôn yn gynharach heddiw.

Diolchodd EUB i’r Prif Weinidog am ei deyrnged raslon i’w Mawrhydi’r Frenhines ar ran pobl Cymru.

Mynegodd EUB cymaint o anrhydedd oedd hi iddo ef a Thywysoges Cymru gael eu gwahodd gan Ei Fawrhydi Y Brenin i wasanaethu pobl Cymru. Byddant yn gwneud hynny gyda gostyngeiddrwydd a pharch mawr.

Cydnabu’r Tywysog ei gariad dwfn ef a’r Tywysoges dros Gymru, ar ôl gwneud eu cartref teuluol cyntaf ym Môn gan gynnwys yn ystod misoedd cynharaf bywyd y Tywysog Siȏr. Bydd y Tywysog a’r Dywysoges yn gwario’r misoedd a blynyddoedd nesaf yn dyfnhau eu perthynas gyda chymunedau ledled Cymru. Maent eisiau chwarae eu rhan i gefnogi dyheadau’r Cymry a dwyn i’r amlwg yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’u blaenau. Mae’r Tywysog a’r Dywysoges yn edrych ymlaen at ddathlu hanes a thraddodiadau balch Cymru yn ogystal â dyfodol sy’n llawn addewid. Byddant yn ceisio cynnal y cyfraniadau balch mae aelodau’r teulu Brenhinol wedi’i wneud mewn blynyddoedd cynt.

Mae Eu Huchelderau Brenhinol yn edrych ymlaen at deithio i Gymru yn fuan iawn, ac i gyfarfod ȃ’r Prif Weinidog ac arweinwyr eraill ar y cyfle cyntaf


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.