6.7 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home Newyddion Lle Trafnidiaeth Cymru yn lansio ap newydd TrawsCymru

Trafnidiaeth Cymru yn lansio ap newydd TrawsCymru

0
333
Traws Cymru07 min scaled
Traws Cymru07 min scaled

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio ap newydd ar gyfer ei rwydwaith bysiau pellter hir Traws Cymru a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd yr ap newydd yn helpu cwsmeriaid i gynllunio eu teithiau, amserlenni bysiau a bydd yn rhoi opsiynau olrhain cerbydau byw iddynt, fel y olrhain lleoliad eu bws ar y rhwydwaith.  Bydd hefyd yn cynnig opsiwn i brynu tocynnau ar yr ap, darparu mynediad digidol i wasanaethau TrawsCymru ac yn arddangos yr arbedion carbon a wneir wrth ddewis teithio ar fws.

Trwy ddarparu gwybodaeth gliriach ar blatfform digidol mwy hygyrch, bydd yr ap yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflawni system fysiau sy’n hybu tegwch cymdeithasol ac sy’n gallu cyflawni’r raddfa o newid yn y ffordd rydym yn teithio sydd ei angen i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.

Mae TrawsCymru yn rhan annatod o rwydwaith bysiau Cymru, gan ddarparu cysylltiadau rhwng trefi a dinasoedd mawr a helpu pobl i gysylltu â chyrchfannau gwaith, addysg, iechyd a hamdden.  Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gwneud gwelliannau i’r rhwydwaith, cerbydau carbon isel, integreiddio TrawsCymru a thocynnau rheilffordd a gwella seilwaith ymyl ffordd a gwybodaeth i deithwyr.

Traws Cymru app

Mae’r ap yn cael ei greu gan Passenger ac ar gael yn yr App Store a Google Play.  Bydd gwefan newydd TrawsCymru yn cael ei lansio yn yr hydref eleni.

Ychwanegodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae ein ap a’n gwefan newydd ar gyfer TrawsCymru yn garreg filltir arwyddocaol yn ein cynlluniau i drawsnewid a gwella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, wrth i ni geisio creu rhwydwaith sy’n apelio at ddemograffeg llawer ehangach.

“Ein pwrpas yw bwrw ymlaen â gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith sefydlog, hawdd ei ddefnyddio o wasanaethau bysiau sy’n cysylltu’n rhwydd â dulliau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus.  Rydym am ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth dibynadwy, fforddiadwy, hyblyg a charbon isel sy’n cefnogi mwy o bobl i ddefnyddio’r bws yn lle’r car – a bydd ap a gwefan newydd TrawsCymru yn ategu at ein hymdrechion parhaus.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.