11.5 C
Llanelli
Friday, August 7, 2026
Home Other areas Carmarthenshire County Council Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhoi cosbau llym i bobl sy’n tipio’n anghyfreithlon

Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhoi cosbau llym i bobl sy’n tipio’n anghyfreithlon

0
377
ccc
ccc

Rhoddodd Cyngor Sir Caerfyrddin werth £4,350 mewn hysbysiadau cosb benodedig yn ymwneud â thipio anghyfreithlon yn ystod mis diwethaf.

Rhoddwyd 17 o hysbysiadau cosb benodedig o ganlyniad i luniau teledu cylch cyfyng yng nghyfleuster ailgylchu Carwe, gan arwain at gyfanswm o £2,675 mewn dirwyon.

Mae hyn yn cynnwys:

•            Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £125 i fenyw o Garwe am ollwng bag

•            Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 i ddyn o Garwe am ollwng bagiau sbwriel du, bagiau ailgylchu glas a photiau o baent ar y safle ar sawl achlysur gwahanol

•            Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £125 i fenyw o Garwe am ollwng bag

•            Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 i un o drigolion Carwe am ollwng bagiau ailgylchu glas ac eitemau eraill

Mae hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd mewn lleoliadau eraill yn y sir yn cynnwys:

•            Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £125 i fenyw am ollwng bag sbwriel du yng nghyfleuster ailgylchu Rhos-goch.

•            Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £125 i un o drigolion Gorseinon a oedd wedi methu yn ei ddyletswydd gofal pan gafodd ei wastraff cartref ei waredu gan berson nad oedd yn gludwr gwastraff cofrestredig.

•            Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £125 i un o drigolion Llanelli am dipio anghyfreithlon ar ôl iddo gael ei adnabod drwy luniau teledu cylch cyfyng a ddarparwyd gan aelod o’r cyhoedd. Gwelwyd y dyn yn gyrru ar hyd y lôn gefn rhwng Stryd Iago a Heol Abertawe yn Llanelli a gwelwyd ef yn taflu bag ailgylchu glas o’i gerbyd a oedd yn symud i’r lôn.

•            Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £300 i un o drigolion Llanelli a oedd wedi methu yn ei ddyletswydd gofal ar ôl i’w wastraff cartref gael ei ddarganfod mewn llain/perth wedi gordyfu yn lôn gefn ei stryd. Honnodd y preswylydd ei fod wedi talu dyn i gael gwared ar ei wastraff ond methodd â rhoi ei fanylion.

•            Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £300 i fusnes yn Llanelli am fethu â chyflwyno nodiadau trosglwyddo gwastraff ar ôl i wastraff a gynhyrchwyd gan y busnes gael ei ddarganfod wedi’i waredu’n anghyfreithlon yn Nyffryn y Swistir, Llanelli. Rhoddwyd hysbysiad i’r busnes yn gofyn iddynt gyflwyno nodiadau trosglwyddo gwastraff o fewn 7 diwrnod ac nid oeddent wedi gwneud hynny. Rhoddwyd hefyd hysbysiad cyfreithiol i’r busnes i sicrhau bod unrhyw wastraff o’r busnes yn cael ei waredu’n gywir yn y dyfodol.

Meddai’r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd: “Mae cyflwyno teledu cylch cyfyng yng nghyfleuster ailgylchu Carwe wedi ein galluogi i roi pen ar waredu gwastraff yn anghyfreithlon ar y safle hwn. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn atgoffa pawb bod yn rhaid rhoi’r holl wastraff sy’n cael ei waredu yn ein cyfleusterau ailgylchu yn y cynhwysydd cywir, gan fynd â’r holl fagiau a bocsys o’r safle.”

“Bydd strategaeth teledu cylch cyfyng y Cyngor yn cael ei hymestyn i gyfleusterau ailgylchu eraill yn y sir yn y misoedd nesaf er mwyn helpu i leihau achosion o dipio anghyfreithlon yn yr ardaloedd hyn.”

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd angen cael gwared ar wastraff i wneud hynny mewn modd cyfrifol. Mae gennym ganolfannau ailgylchu yn Nantycaws (Caerfyrddin), Trostre (Llanelli), Wernddu (Rhydaman) a Hendy-gwyn ar Daf yn ogystal â gwasanaeth casglu gwastraff swmpus a chasgliadau gwastraff y cartref wythnosol. Wrth dalu am gael gwared ar sbwriel, defnyddiwch fusnes trwyddedig a sicrhewch eich bod yn cael nodyn trosglwyddo gwastraff dilys pan fydd gwastraff yn cael ei gasglu.”

I gael rhagor o wybodaeth am waredu gwastraff ewch i Sirgar.llyw.cymru/ailgylchu


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.