8.6 C
Llanelli
Monday, March 9, 2026
Home Newyddion Lle Bysiau trydan newydd i TrawsCymru

Bysiau trydan newydd i TrawsCymru

0
513
TrawsCymru bus expo 4
TrawsCymru bus expo 4

Yr wythnos hon, datgelodd Trafnidiaeth Cymru ei fysiau trydan newydd sbon cyntaf yn yr Euro Bus Expo yn yr NEC, Birmingham

Yn y flwyddyn newydd, bydd fflyd o fysiau trydan modern yn cael eu cyflwyno ar lwybr T1 TrawsCymru rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth a bydd man gwefru newydd yn agor yn Sir Gaerfyrddin gyda chyfleusterau newydd ar gyfer y gyrwyr a’r bysiau.

Wedi’u cyflenwi gan Pelican, mae’r bysiau newydd wedi cael eu profi’n helaeth ar gyfer tirwedd Cymru a byddant yn gwella profiad y cwsmer gan gynnig seddi cyfforddus, aerdymheru, goleuadau darllen, byrddau a socedi i wefru ffonau symudol.

Mae cyflwyno’r bysiau gwyrddach hyn yn gam arall ymlaen i wella’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, gan annog pobl i deithio’n fwy cynaliadwy a helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nodau di-allyriadau a brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth: “Mae hwn yn newyddion gwych.  Bydd cyflwyno’r fflyd newydd o fysiau trydan yn hwb mawr i wasanaeth bysiau TrawsCymru.  Mae hefyd yn gam pwysig tuag at gyflawni ein huchelgais 20 mlynedd ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, aml-foddol o ansawdd uchel yma yng Nghymru.”

Ychwanegodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Dyma garreg filltir allweddol arall wrth i ni barhau i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru.  Dyma’r cam cyntaf i ddatgarboneiddio fflyd TrawsCymru gyfan erbyn 2027 a holl fysiau Cymru erbyn 2035.

“Mae’n wych gweld y bws trydan newydd yn cael ei arddangos yn y digwyddiad hwn.  Yn y misoedd nesaf, bydd y bysiau modern hyn mewn gwasanaeth, gan wella profiad y cwsmer ac annog mwy o bobl i adael y car gartref a dewis defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff ac Isadeiledd, y Cyng. Edward Thomas: “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru i ddarparu’r seilwaith a’r bysiau trydan.  Mae hwn yn gam pwysig ymlaen i helpu i ddarparu trafnidiaeth wedi’i ddatgarboneiddio o ansawdd uchel ar wasanaeth Traws Cymru – Caerfyrddin i Aberystwyth Llywodraeth Cymru.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.