9.4 C
Llanelli
Thursday, March 5, 2026
Home Newyddion Lle Canolfan Ragoriaeth newydd ar gyfer Gofal Iechyd yng Ngwynedd: Siemens Healthineers i...

Canolfan Ragoriaeth newydd ar gyfer Gofal Iechyd yng Ngwynedd: Siemens Healthineers i uwchraddio’r cyfleuster yn Llanberis a buddsoddi mewn swyddi newydd, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru

0
394
220810 VG Siemens Visit 8 min scaled
220810 VG Siemens Visit 8 min scaled
  • Bydd Siemens Healthineers yn lansio canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer technoleg gofal iechyd yn Llanberis, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
  • Bydd y ganolfan ragoriaeth yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu a gweithgynhyrchu.
  • Bydd y cyfleuster newydd yn helpu i gyfuno gwaith Siemens Healthineers o gynhyrchu ei dechnoleg dadansoddi gwaed, IMMULITE®, yn Llanberis.
  • Bydd y buddsoddiad yn diogelu 400 o swyddi ac yn creu bron 100 swydd o ansawdd uchel, gyda chyflog cyfartalog gryn dipyn yn uwch na’r cyfartalog ar gyfer yr ardal.
  • Mae’r cyhoeddiad yn dod wrth i Siemens Healthineers ddathlu 30 mlynedd yn Llanberis.

Bydd Siemens Healthineers yn lansio canolfan ragoriaeth ar gyfer gofal iechyd yn Llanberis, gan ddod â buddsoddiad mewn ymchwil a datblygiad gwerth miliynau o bunnoedd a sicrhau swyddi hirdymor, ansawdd uchel gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.

Vaughan Gething Siemens Visit

Bydd Siemens Healthineers yn cyfuno ei weithrediadau byd-eang yn cynhyrchu ei dechnoleg dadansoddi gwaed, IMMULITE®, a ddefnyddir yn fyd-eang i roi diagnosis o gyflyrau meddygol, yn ei safle yng Ngwynedd.

Bydd y buddsoddiad hwn yn trawsnewid y safle yn gyfleuster ymchwil a datblygu ar gyfer diagnosteg, gan alluogi datblygu cynhyrchion diagnostig manwl gwell i’w defnyddio i optimeiddio gofal iechyd cleifion.

Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru, a bydd Siemens Healthineers yn Llanberis yn diogelu cannoedd o swyddi o ansawdd uchel, gan gynnwys creu bron 100 swydd newydd, gyda’r cyflog cyfartalog gryn dipyn yn uwch na’r cyfartalog ar gyfer yr ardal. 

Yn bwysicach, bydd y prosiect yn sicrhau y bydd y safle yn parhau i fod yn hyfyw y tu hwnt i 2030. Mae’r rhan fwyaf o gyflogeion yn byw o fewn deg milltir i’r safle yn Llanberis.

Mae cyflogeion presennol yn cynnwys prentisiaid a gynigiwyd swyddi llawnamser iddynt, ac mae nifer o gyflogeion wedi’u cofrestru gyda’r brifysgol ar hyn o bryd.

Bydd y cyfleuster ymchwil a datblygiad hwn hefyd yn atgyfnerthu partneriaethau â sefydliadau addysg uwch Cymru, sef Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd – sefydliadau o’r radd flaenaf.

Mae Siemens Healthineers wedi bod yn bresennol yn Llanberis ers 1992 ac yn berchen ar y safle 36 erw. Bydd y buddsoddiad hwn yn gwneud yn siŵr y bydd y cwmni yn gyflogwr mawr yn yr ardal am flynyddoedd lawer.

Mae’r buddsoddiad hwn i sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil a datblygiad a gweithgynhyrchu yn y gwyddorau iechyd yn alinio â’r Rhaglen Lywodraethu, sydd am adeiladu economi yn seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol. Bydd yn creu swyddi newydd, yn ogystal â chefnogi datblygu sgiliau a darparu cyfleoedd hyfforddi newydd.

Vaughan Gething Siemens Visit

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Rwyf wrth fy modd cyhoeddi’r buddsoddiad sylweddol hwn, gyda Siemens Healthineers, mewn canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer ymchwil a datblygu yng Nghymru.

“Diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru, rydyn ni wedi diogelu ac wedi creu cannoedd o swyddi newydd o ansawdd uchel yng Ngwynedd.

“Mae Siemens Healthineers yn Llanberis yn gyflogwr strategol bwysig ar gyfer y gogledd cyfan, ac mae’r buddsoddiad hwn yn dangos yr hyder enfawr yn economi Cymru.

“Mae’r contract economaidd rydyn ni wedi ei lofnodi gyda Siemens Healthineers yn diogelu’r cyfleuster ar gyfer y dyfodol, yn sefydlu cyfleuster arloesol ar gyfer ymchwil a datblygu, yn addo gwaith teg ac amgylchedd gweithio cynhwysol am ddegawdau lawer.”

Vaughan Gething Siemens Visit

Dywedodd Is-lywydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Siemens Healthineers yn Llanberis, yr Athro Fraser Logue:

“Mae labordai a chlinigau mewn dros 50 gwlad o amgylch y byd yn dibynnu ar yr adweithredyddion IMMULITE rydyn ni’n eu cynhyrchu yn Llanberis, gan gynnwys dros 100 o gyflyrau iechyd a 570 o brofion alergedd. Mae’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn dangos pa mor hanfodol yw’r gwaith mae Ein gweithlu presennol o dros 400 o gydweithwyr yn ei wneud, a bydd yn ein galluogi i fwrw ymlaen â’n cynlluniau i fuddsoddi yn y safle.

“Bydd bron 100 o swyddi ar gyfer gweithwyr medrus iawn yn cael eu creu, wrth inni wireddu ein huchelgais cyffredin i drawsnewid Siemens Healthineers yn Llanberis yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer gweithgynhyrchu ac ymchwil a datblygu ym maes diagnosteg labordy.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.