11.7 C
Llanelli
Tuesday, March 17, 2026
Home Newyddion Lle £2.1m i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg bellach

£2.1m i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg bellach

0
547
mhorwood Welsh Government 130521 38 1
mhorwood Welsh Government 130521 38 1

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi cyllid newydd dros dair blynedd i wella profiadau myfyrwyr addysg bellach ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Bydd y cyllid yn cael ei roi i bob coleg addysg bellach yng Nghymru i’w helpu i weithredu’r Ddeddf ADY, sy’n cael ei chyflwyno’n raddol dros dair blynedd gan gymryd lle y system anghenion addysgol arbennig (AAA) bresennol.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella profiadau addysgol ac i helpu colegau i ddarparu cymorth wedi’i deilwra i fyfyrwyr drwy eu cynlluniau datblygu unigol. Bydd hefyd yn cefnogi dull mwy cyson o ymdrin ag ADY mewn colegau ledled Cymru drwy eu helpu i ddatblygu partneriaethau ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, colegau eraill ac ysgolion.

Mae prosiect Camu Mlaen Coleg Ceredigion yn enghraifft o sut y bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio. Yn hanesyddol, mae’r bobl ifanc â’r anghenion mwyaf cymhleth a difrifol wedi bod yn gorfod gadael eu cymuned leol i gael mynediad at addysg a hyfforddiant. Mae Coleg Ceredigion a Chyngor Sir Ceredigion wedi cydweithio i newid hyn drwy’r prosiect Camu Mlaen, felly gall pobl ifanc yn awr gael addysg sgiliau bywyd yn eu hardal leol. Bydd y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn helpu’r coleg i ddatblygu’r prosiect hwn a bydd yn creu cyfleoedd i golegau eraill weithio ar brosiectau tebyg.  

Dywedodd Jeremy Miles:

“Mae pob person ifanc yng Nghymru yn haeddu mynediad at addysg o ansawdd uchel. Rwyf am sicrhau bod pob dysgwr yn gallu gwireddu ei botensial.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn creu gwahaniaeth go iawn i bobl ifanc ac yn cynyddu’r cyfleoedd a’r opsiynau sydd ar gael iddynt yn eu coleg lleol.”

Ychwanegodd Chris Denham, Arweinydd Trawsnewid ADY, ColegauCymru:

“Mae ColegauCymru o’r farn y dylai pob person ifanc gael mynediad at addysg bellach a hyfforddiant o ansawdd uchel ac y dylai hyn, pan fo modd, fod ar gael yn eu cymuned eu hunain. Bydd yr ymrwymiad diweddaraf hwn gan Lywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau hyn.

“Mae gweithredu system ADY ym maes addysg ôl-16 wedi rhoi ffocws a chyfle i golegau wella profiad addysg bellach i bobl ifanc. Mae pob un o’r 13 o golegau yng Nghymru wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau y bydd eu darpariaeth yn eu galluogi nhw i gyflawni eu dyletswyddau newydd o dan y Ddeddf ADY.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.