18.2 C
Llanelli
Wednesday, August 5, 2026
Home Newyddion Lle Effaith pandemig Covid-19 ar achosion o gyflyrau hirdymor yng Nghymru

Effaith pandemig Covid-19 ar achosion o gyflyrau hirdymor yng Nghymru

0
441
COVID19 1
COVID19 1

Mae astudiaeth cyswllt data poblogaeth sy’n defnyddio cofnodion iechyd gofal sylfaenol ac eilaidd yn datgelu bod llai o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o gyflyrau hirdymor na’r disgwyl yn 2020 a 2021.

Cynyddodd cyfraddau diagnosis dros y cyfnod o 2 flynedd ond ar gyfer y rhan fwyaf o gyflyrau, roeddent yn parhau i lusgo y tu ôl i ddisgwyliadau ar ddiwedd 2021. Awgryma hyn dagfeydd posibl o gleifion heb ddiagnosis sy’n annhebygol o fod yn cael eu monitro a’u rheoli’n systematig ar gyfer eu cyflyrau.

Arweiniwyd yr astudiaeth gan ymchwilwyr o Wyddoniaeth Data Poblogaeth yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Chanolfan Dystiolaeth Covid-19 Cymru, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd a Chanolfan PRIME Cymru.

Ymhlith y cyflyrau yr effeithiwyd arnynt fwyaf roedd clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) ac anhwylderau gorbryder a oedd yn cyfateb i fwy na 30 ac 80 o ddiagnosis ‘ar goll’ mewn practis cyffredinol nodweddiadol o 10,000 o gleifion, yn y drefn honno.

Gall fod gan bractis o’r fath dros 400 o ddiagnosisau coll ar draws yr 17 cyflwr a astudiwyd. Ni chanfu ymchwilwyr unrhyw wahaniaethau nodedig yn nodweddion demograffig-gymdeithasol y cleifion a gafodd ddiagnosis cyn ac ar ôl pandemig megis oedran, rhyw ac ethnigrwydd.

Bydd ail gam yr ymchwil yn adeiladu ar y gwaith hwn i ymchwilio i effaith Covid ar batrymau defnyddio adnoddau gofal iechyd (HRU) ar gyfer cleifion â chyflyrau hirdymor.

Cynhaliodd tîm yr astudiaeth, astudiaeth gysylltu data poblogaeth gan ddefnyddio data gofal sylfaenol ac eilaidd o fewn Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Nodwyd bod 2,257,992 o unigolion yn byw yng Nghymru wedi cael diagnosis am y tro cyntaf gydag unrhyw un o 17 o gyflyrau hirdymor rhwng Ionawr 1, 2000 a Rhagfyr 31, 2021.

Gan gymharu cyfraddau diagnosis pob cyflwr rhwng 2020 a 2021 â disgwyliadau a ragwelir yn seiliedig ar gyfraddau rhwng 2015 a 2019, fe wnaeth ymchwilwyr amcangyfrif y gwahaniaeth rhwng cyfanswm nifer y diagnosisau disgwyliedig a’r rhai a gofnodwyd dros y cyfnod o ddwy flynedd.

Datgela’r ymchwil hwn tagfeydd posibl o gleifion heb ddiagnosis sydd â chyflyrau hirdymor lluosog yng Nghymru sydd angen adnoddau i fynd i’r afael â llwyth gwaith a ragwelir fel rhan o adferiad COVID-19, yn enwedig mewn gofal sylfaenol.

“Mae’r astudiaeth hon yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar yr effeithiau ehangach y mae pandemig COVID-19 wedi’u cael ar bobl, cymunedau a’r GIG yng Nghymru,” dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Athro Polisi a Rheolaeth Iechyd. “Dengys partneriaethau ymchwil fel hyn nid yn unig gwerth enfawr cydweithredu mewn ymchwil ond hefyd yr ystod o fanteision a gynigir trwy wneud defnydd llawn o ddata a gesglir yn rheolaidd. O fis Ebrill eleni, bydd Canolfan Dystiolaeth Cymru, sydd newydd ei hehangu, yn cyflawni cylch gwaith ehangach, gan fynd i’r afael â materion allweddol sy’n flaenoriaeth ym meysydd iechyd, iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol.”

Ychwanegodd cyd-gyfarwyddwr Banc Data SAIL, yr Athro Ronan Lyons, “Mae Banc Data SAIL wedi bod yn arf annatod ar gyfer monitro trosglwyddiad ac effeithiau hirdymor y pandemig ers iddo ddod i’r amlwg gyntaf. Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae’r timau yn SAIL a Gwyddor Data Poblogaeth, ynghyd ag eraill ar draws cyrff iechyd y cyhoedd yng Nghymru, wedi gweithio’n galed i ddatblygu ein rhwydwaith a’n galluoedd. Mae hyn wedi ein galluogi i

ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i’r argyfwng iechyd hwn. Fel rhan o’r cydweithio hwn yn Cymru’n Un, mae ein gwaith ymhell o fod wedi gorffen wrth i ni barhau i fonitro ac asesu effaith COVID-19 ar draws Cymru a sicrhau ein bod yn dysgu o’r profiad hwn ac yn gwella ymhellach ein cyd-ddatrysiad a’n gwybodaeth ar gyfer argyfyngau iechyd yn y dyfodol.”

Meddai Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, ‘Mae hwn yn faes ymchwil hanfodol i leihau bylchau mewn anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru. Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu ariannu a chefnogi’r ymchwil hwn ochr yn ochr â’n partneriaid cydweithio ymroddedig yn y tîm Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe.”’


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.