9.6 C
Llanelli
Tuesday, March 17, 2026
Home Newyddion Lle Y Gweinidog yn canmol swyddogion yn eu rôl allweddol yn cadw cymunedau...

Y Gweinidog yn canmol swyddogion yn eu rôl allweddol yn cadw cymunedau yn ddiogel ar batrôl gyda Heddlu’r De

0
380
South Wales Police 1 min scaled
South Wales Police 1 min scaled

Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod ar batrôl gyda Heddlu’r De yn y Barri, yn cael cipolwg gwerthfawr ar y gwaith y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd i gadw cymunedau yn ddiogel.

Mae’r profiad o gysgodi swyddogion yr wythnos hon yn digwydd yn sgil penderfyniad y Gweinidog i gael gwell dealltwriaeth o’r math o broblemau y mae’r uned ymateb i ddigwyddiadau yn delio â hwy wrth iddynt gael eu galw i ddigwyddiadau byw tra’u bod ar ddyletswydd.

Minister for Social Justice, Jane Hutt, outside Barry Police Station South Wales Police

Nid yw plismona yn fater datganoledig, ond mae gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol gyfrifoldeb dros ddiogelwch cymunedol. Oherwydd hynny, mae gan Lywodraeth Cymru a Phlismona yng Nghymru hanes hir a chynhyrchiol o weithio mewn partneriaeth gyda’r nod unfrydol o gadw Cymru yn ddiogel a gwasanaethu cymunedau.

Mae’r Gweinidogion hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ar draws Cymru, sy’n gyswllt hanfodol rhwng cymdogaethau a’r heddlu.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal cyllid ar gyfer 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ac yn darparu 100 arall dros dymor y Senedd hon. Mae’r cyllid yn dangos y pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar gymunedau, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn cydweithio â swyddogion yr heddlu ac yn rhannu peth, ond nid y cyfan, o’u pwerau. Maent yn gweithredu fel llygaid a chlustiau i’r heddlu ar lawr gwlad, mae ganddynt awydd i ddatrys problemau a datblygu atebion hirdymor a chynaliadwy mewn perthynas â’r problemau hynny ac i feithrin perthynas yn lleol drwy fentrau amrywiol sy’n creu ymdeimlad o ddiogelwch mewn cymunedau.

South Wales Police

Maent yn rhan hanfodol o blismona, sy’n sicrhau bod cymunedau yn saff ac yn ddiogel, maent yn gweithio gyda’r unigolion mwyaf agored i niwed, gan roi cyngor a chefnogaeth i’r cyhoedd am amrywiaeth eang o faterion diogelwch cymunedol.

Mae’r meysydd y mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn rhoi cefnogaeth i Swyddogion rheng flaen yr Heddlu â hwy yn cynnwys atal goryrru y tu allan i ysgolion, adrodd am fandaliaeth a lleihau ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: “Rwyf eisiau diolch i’r swyddogion yng Ngorsaf Heddlu y Barri am rannu eu profiadau â mi, ac am y gwaith pwysig a gwerthfawr y maent yn ei wneud bob dydd i’n cadw’n ddiogel.

South Wales Police, Barry Police Station

“Mae plismona yn rhan mor bwysig o’n cymunedau. Mae Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau bod pobl ym mhob rhan o Gymru yn teimlo’n ddiogel.

“Wedi cael amser gyda’r heddlu ar batrôl, rwy’n deall mwy am y gwahanol ddigwyddiadau y mae’r heddlu’n cael eu galw iddynt, a sut y maent yn perthyn i’r meysydd y mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb drostynt megis iechyd a gofal cymdeithasol.

“Ein bwriad yw sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn gryf ac yn ddiogel, a bod ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i leihau’r gyfradd droseddu.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.