17.8 C
Llanelli
Saturday, September 12, 2026
Home Local News Cardiff News Gorchymyn i gyfarwyddwr a chwmni talu a chario yng Nghaerdydd dalu dros...

Gorchymyn i gyfarwyddwr a chwmni talu a chario yng Nghaerdydd dalu dros £10,000 yn Llys Ynadon Caerdydd

0
2706
Screenshot 2022 05 24 at 14.37.13
Screenshot 2022 05 24 at 14.37.13

Mae cyn-gyfarwyddwr busnes cyfanwerthu talu a chario mawr ar Heol Bessemer yng Nghaerdydd wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £1,517 yn sgil pla llygod mawr yn ei safle yn ogystal â methu sicrhau’r gymeradwyaeth angenrheidiol gan yr awdurdod awdurdodi i gyflenwi bwydydd ‘sy’n dod o anifeiliaid’ gan gynnwys cynnyrch cig i’w fwyta gan bobl sydd ymhellach na radiws o 30 milltir.

Mae LS Wholesale Ltd, sydd wedi’i leoli yn Uned 16d yr Wholesales Fruit Centre yn Heol Bessemer, Caerdydd, yn fusnes cyfanwerthu sy’n cyflenwi sbeisys, llysiau, cig, pysgod a bwydydd eraill sy’n ‘dod o anifeiliaid’ i siopau a bwytai cyfagos.

Rhwng 6 Rhagfyr 2021, ac 20 Medi 2022, ymwelodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd o’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar ran Cyngor Caerdydd â’r busnes ar sawl achlysur a chanfod pla eang o lygod mawr a throseddau hylendid bwyd eraill, gan gynnwys:

  • Baw llygod mawr helaeth lle roedd bagiau sbeisys yn cael eu storio
  • Gwelwyd llygod mawr byw o dan y paledi storio bwyd
  • Roedd tyllau yn strwythur yr adeilad a oedd yn caniatáu i gnofilod fynd i’r safle
  • Roedd cig dafad cymysg yn cael ei werthu, heb y gwaith papur cywir i ddangos o le daeth y cig; a
  • Roedd cig yn cael ei gludo i Loegr ymhellach na 30 milltir o’r fan lle lleolir y busnes ac nid oedd y gymeradwyaeth angenrheidiol gan yr awdurdod awdurdodi ganddo.

Plediodd Shah Mohammed Islam, 46, o Beauchamp Street, Caerdydd, yn euog i bedair trosedd a dedfrydwyd ef yn ddiweddarach yn Llys Ynadon Caerdydd ar 13 Ebrill 2023.  Ar adeg y troseddau Mr Islam oedd unig Gyfarwyddwr LS Wholesale Ltd ac felly ganddo ef oedd y cyfrifoldeb cyffredinol am y busnes. Gorchmynnwyd i LS Wholesale Ltd hefyd dalu cyfanswm o £8,852.

Yn ei amddiffyniad, honnodd Mr Islam ei fod wedi cydweithredu â’r awdurdodau gydol yr ymchwiliad a bod safonau wedi gwella yn ei fusnes, gyda gwell glendid a drws cau newydd wedi’i osod i atal y cnofilod rhag mynd i’r adeilad. Honnodd fod eu cwmni rheoli plâu wedi gwneud popeth allen nhw ei wneud i ddelio â’r pla llygod mawr, ac nad oedden nhw’n diystyru’r gyfraith yn ddigywilydd. Cadarnhaodd Mr Islam hefyd fod y cig dan sylw wedi’i ddinistrio ac nad oedd wedi ei werthu i’w cwsmeriaid ond derbyniodd fod ‘diffyg crebwyll’ clir wedi bod wrth gludo cig i’w fwyta gan bobl heb y drwydded ofynnol.

Dwedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd:  “Er i’r diffynyddion ddangos cydweithrediad â’r Cyngor, a bod safonau ar y safle wedi gwella yn sgil ymyriadau swyddogion, roedd y dystiolaeth yn dangos methiant i gydymffurfio a Rheoliadau Hylendid Bwyd. Fel y gwnaeth y Barnwr Rhanbarth hi’n glir yn y llys, mae’r troseddau hyn yn ddifrifol, gan fod Mr Islam yn rhedeg busnes mawr a oedd yn cyflenwi llawer o bobl, felly dylid fod wedi rhoi pwys ar ddilyn deddfau diogelwch bwyd bob amser. Dylai’r ddedfryd hon anfon neges glir i fusnesau bwyd eraill, boed yn fusnesau cyfanwerthu neu fwytai, ein bod yn cymryd y materion hyn o ddifri a byddwn yn gweithredu ar wybodaeth a ddaw i law a chymryd y camau priodol.”

Cafodd LS Wholesale Ltd ddirwy o £7,335, gorchymyn i dalu costau o £1,327 gyda gordal dioddefwr o £190.

Cafodd Mr Shah Mohammed Islam ddirwy o £1,000, gorchymyn i dalu costau o £1,327 gyda gordal dioddefwr o £190.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.