5.7 C
Llanelli
Saturday, March 7, 2026
Home Newyddion Lle Elusen y Parc Cenedlaethol yn gofyn am gymorth gwirfoddolwyr

Elusen y Parc Cenedlaethol yn gofyn am gymorth gwirfoddolwyr

0
369
Small Needle Rock 01
Small Needle Rock 01

Wrth i Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro ddathlu ei phen-blwydd yn bump oed, mae galwad wedi cael ei gwneud am unigolion sy’n frwd dros y Parc Cenedlaethol i helpu i’w ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Sefydlwyd yr elusen yn 2018, ac ers hynny mae wedi gweithio gydag aelodau o’r cyhoedd, cyrff cyllido a rhoddwyr corfforaethol i gefnogi amrywiaeth eang o brosiectau sydd wedi’u cynllunio i fod o fudd i’r Parc a’i bobl. Mae’r rhain yn cynnwys gwella safleoedd ar gyfer natur, helpu ysgolion a phlant cyn oed ysgol i gael profiadau dysgu yn yr awyr agored a chefnogi prosiectau cymunedol sy’n hyrwyddo bioamrywiaeth ac yn cyflawni o ran cadwraeth neu newid yn yr hinsawdd.

Fodd bynnag, wrth i’r Ymddiriedolaeth edrych tuag at y dyfodol a’r holl heriau y mae’r unig Barc Cenedlaethol gwirioneddol arfordirol yn y DU yn eu hwynebu, mae mwy o angen nag erioed am unigolion brwdfrydig sy’n barod i helpu.

Mae cyfleoedd ar gael nawr i Wirfoddolwyr Codi Arian a Chymunedol, a fydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r Ymddiriedolaeth a’i gwaith mewn cymunedau lleol, helpu i godi arian, cynrychioli’r elusen mewn digwyddiadau lleol a darparu cymorth ymarferol arall pan fo angen.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr cyfeillgar a chroesawgar, gyda’r hyder i siarad â’r cyhoedd, ar sail un i un ac mewn grwpiau mawr.”

Bydd y gweithgareddau’n amrywio o gynrychioli’r Ymddiriedolaeth mewn digwyddiadau lleol i helpu i gasglu arian mewn bwcedi, mynychu digwyddiadau pan fydd siec yn cael ei chyflwyno, rhoi cyflwyniadau byr ar waith yr elusen a helpu gyda dyletswyddau gweinyddol. Fodd bynnag, dim ond dyletswyddau neu weithgareddau y byddan nhw’n teimlo’n gyfforddus yn eu gwneud y disgwylir i wirfoddolwyr eu cyflawni.

Ychwanegodd Katie Macro: “Mae ymchwil wedi dangos bod gwirfoddoli yn gallu bod yr un mor fuddiol mewn sawl ffordd i unigolion ag y mae i’r achos maen nhw’n ei gefnogi. Mae’r rhain yn cynnwys cwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau newydd, datblygu eich CV a rhoi hwb i’ch hunan-barch.

“Bydd pawb yn cael hyfforddiant a dillad brand yr Ymddiriedolaeth, bydd treuliau’n cael eu had-dalu a bydd geirdaon yn cael eu darparu yn y dyfodol. Y cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw bod gwirfoddolwyr yn ddibynadwy ac yn onest, ac yn ddigon hyblyg i gael eu galw pan fo angen.”

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli i Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, cysylltwch â support@pembrokeshirecoasttrust.wales.

Mae rhagor o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth a’i gwaith ar gael yn https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.