7.4 C
Llanelli
Sunday, February 1, 2026
Home Newyddion Lle Adnodd dysgu arloesol yn helpu academydd i ennill gwobr addysgu o fri

Adnodd dysgu arloesol yn helpu academydd i ennill gwobr addysgu o fri

0
442
Tom Wilkinson edit scaled
Tom Wilkinson edit scaled

Mae’r academydd Tom Wilkinson wedi cael ei anrhydeddu am helpu i ddatblygu ffyrdd o addysgu imiwnoleg a wnaeth ysbrydoli myfyrwyr yn ystod Covid. 

Yn ogystal â chyflwyno imiwnoleg ar draws yr holl flynyddoedd a rhaglenni, roedd ef hefyd yn rhan o’r tîm a greodd set arbennig o adnoddau ar gyfer dysgu o bell. Arweiniodd hyn at gydnabyddiaeth iddo yng ngwobrau cyntaf erioed Cymdeithas Imiwnoleg Prydain (BSI) a chafodd ei enwi’n un o ddau gyd-enillydd y Wobr Rhagoriaeth Addysgu

Gwnaeth Dr Wilkinson , o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gyfraniad allweddol at ddatblygu Pecyn Cymorth Addysgu Imiwnoleg Cymru, sef cyfres o adnoddau a luniwyd i sicrhau y gallai myfyrwyr ddysgu’r technolegau imiwnoleg a’r gweithdrefnau arbrofol allweddol hyd yn oed pan nad oedd modd iddynt fynd i’r labordy o ganlyniad i Covid. 

Roedd un o’r adnoddau hyn, cytomedr llif rhithwir, mor llwyddiannus y mae bellach yn elfen barhaol o’r cwrs sydd ar gael i’w mabwysiadu ledled y DU ac Iwerddon mewn sefydliadau eraill. 

Dywedodd Dr Wilkinson, sydd hefyd yn arwain grŵp microbioleg a chlefydau heintus y Brifysgol, fod ei wobr yn anrhydedd enfawr.  

Meddai: “Rwy’n falch iawn bod y BSI wedi cydnabod pwysigrwydd datblygu deunyddiau efelychu newydd i addysgu imiwnoleg yn well ar lefel israddedig. 

“Yn yr un modd ag unrhyw anrhydedd, rwy’n rhan o dîm a hoffwn i gydnabod cymorth Dr Nigel Francis, o Brifysgol Caerdydd, a Dave Ruckley, ein technolegydd dysgu dawnus yn Abertawe. Yn y dyfodol rydyn ni’n gobeithio mireinio ein hefelychiadau addysgu a gyhoeddwyd y llynedd. 

“Byddai hyn yn cynnwys defnyddio efelychiadau mewn prifysgolion eraill yn y DU, fel y gallwn ni ddysgu ymhellach am eu rôl mewn addysgu israddedigion. 

“Er fy mod i’n mwynhau rhyngweithio â myfyrwyr yn fyw mewn darlithoedd a sesiynau ymarferol, roedd y pandemig yn golygu bod angen i ni ganfod ffyrdd eraill o ennyn brwdfrydedd ac annog dysgu, a bydd yr efelychiadau a’r adnoddau hyn a ysbrydolwyd gan ymchwil yn y labordy yn gymhorthion defnyddiol i gefnogi myfyrwyr cyn iddynt gyrraedd labordai gwlyb am y tro cyntaf.” 

Dathlodd Gwobrau Imiwnoleg y BSI gyflawniadau anhygoel unigolion a thimau sy’n llywio dyfodol imiwnoleg ar hyn o bryd. Cafodd 11 o enillwyr eu henwi mewn seremoni arbennig. 

Meddai Doug Brown, Prif Weithredwr y BSI: “Rydyn ni wrth ein boddau i gydnabod cyflawniadau’r unigolion eithriadol hyn. Mae pob un ohonyn nhw’n rhoi ei amser a’i arbenigedd i lywio dyfodol imiwnoleg, mewn llawer o achosion y tu hwnt i olwg y cyhoedd. Bydd eu hymdrechion yn sicrhau dyfodol mwy disglair i’n maes.” 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.