8.9 C
Llanelli
Wednesday, March 11, 2026
Home Dwr Cymru Trigolion Ceredigion yn cael eu hannog i daflu weips ‘niweidiol’ i’r bin...

Trigolion Ceredigion yn cael eu hannog i daflu weips ‘niweidiol’ i’r bin wrth i Ddŵr Cymru weld cynnydd o 66% yn nifer y cwsmeriaid sy’n debygol o’u fflysio i lawr y toiled

0
464
Blaenavon 2 min
Blaenavon 2 min

  • Mae ymchwil yn dangos bod 22% o bobl yng Nghymru yn cyfaddef iddynt fflysio weips i lawr y toiled
  • Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y mwyafrif llethol o bobl Cymru wedi dweud eu bod yn poeni am ddiogelu’r amgylchedd – 91%, llygru afonydd a moroedd – 92%, ac amddiffyn anifeiliaid – 94%
  • Weips gwlyb yw prif achos tomenni saim sy’n blocio systemau carthffosiaeth, ac maent yn cyfrannu’n fawr at sbwriel mewn afonydd.
  • Mae Dŵr Cymru’n annog y cyhoedd i “Stopio’r Bloc” trwy daflu weips ac eitemau mislif i’r bin

Mae arolwg diweddar gan Water UK wedi datgelu bod mwy nag o bob pump (22%) o bobl Cymru’n cyfaddef iddynt fflysio weips gwlyb i lawr y toiled.

Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y mwyafrif llethol o bobl Cymru wedi dweud eu bod yn poeni am ddiogelu’r amgylchedd (91%), llygredd afonydd a moroedd (92%), a diogelu anifeiliaid (94%).

Gall fflysio weips achosi niwed amgylcheddol difrifol ac maent ymhlith prif achosion y ‘tomenni saim’ sy’n blocio carthffosydd gan achosi llifogydd mewn cartrefi a busnesau. Mae tua 300,000 o garthffosydd yn cael eu blocio ledled y DU bob blwyddyn, gan gostio tua £100 miliwn i’r diwydiant dŵr.

Maent hefyd ymhlith prif achosion llygredd yn ein moroedd ac yn niweidio bywyd gwyllt wrth iddynt fynd yn sownd y tu mewn i anifeiliaid, gan arwain at newyn ac yn eu lladd yn y pen draw.

Dywedodd Delme Williams, Arweinydd Gwella Busnes Dŵr Cymru: “Yn Dŵr Cymru rydym yn gweithio 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i ddosbarthu dros 800 miliwn litr o ddŵr yfed glân a diogel bob dydd. Bob blwyddyn, rydyn ni’n clirio cannoedd ar filoedd o flociadau, sydd wedi eu hachosi gan eitemau na ellir eu fflysio, fel cewynnau, weips, eitemau mislif a mwy, o’n carthffosydd.”

Mae tua 90% o weips yn cynnwys plastig o ryw fath. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn dadelfennu mewn carthffosydd, yn wahanol i bapur tŷ bach. Yn hytrach, gallant fynd yn sownd a dod yn un o brif gynhwysion y “tomenni saim” sy’n blocio carthffosydd gan arwain at lygredd a llifogydd. Mae rhwystrau mewn carthffosydd yn golygu bod angen defnyddio gorlifoedd storm yn amlach, gan arwain at lygredd mewn afonydd.

A hyd yn oed os ydyn nhw’n llwyddo i fynd heibio i’r tomenni saim, gall weips olchi allan i’r amgylchedd, gan wasgaru plastig llygredig i afonydd ar draethau, a pheryglu bywyd gwyllt.

Van

Ychwanegodd Delme Williams, Arweinydd Gwella Busnes Dŵr Cymru: “Mae’n siomedig clywed, trwy’r arolwg a gynhaliwyd gan Ddŵr Cymru, bod ein cwsmeriaid sy’n debygol o fflysio weips niweidiol i lawr y toiled wedi cynyddu 66% yn y pedwar mis diwethaf, o gymharu â Gorffennaf – Hydref 2022.

“Mae ein hymgyrch Stop Cyn Creu Bloc yn ceisio addysgu pobl yng Nghymru am y problemau y gall fflysio’r pethau anghywir i lawr y toiled eu hachosi, a’u hysbrydoli i gael gwared ar gynnyrch mewn ffordd briodol er mwyn osgoi rhwystrau cas sy’n niweidiol i gartrefi a’r amgylchedd.”

Dylai cwsmeriaid gofio fflysio’r tri P yn unig – pi-pi, pŵ a papur – i atal rhwystrau cas a allai achosi llifogydd mewn cartrefi, busnesau a gerddi.

Yn ddiweddar, bu cydweithwyr o Ddŵr Cymru’n ymweld ag Aberteifi a Llandudoch i siarad â’r cyhoedd am sut i stopio’r bloc.

Bydd y tîm allan eto yng nghanol tref Aberaeron rhwng 10am a 1pm dydd Llun, 26 Mehefin i siarad â’r cyhoedd am sut y gallant helpu i stopio’r bloc ac atal llifogydd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dwrcymru.com/cy-gb/stop-the-block


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.