11.1 C
Llanelli
Wednesday, March 4, 2026
Home Art Dewch i ailddarganfod Geiriau Diflanedig natur a diwylliant yn Oriel y Parc...

Dewch i ailddarganfod Geiriau Diflanedig natur a diwylliant yn Oriel y Parc o 2 Gorffennaf

0
475
Adder © Jackie Morris min
Adder © Jackie Morris min

Drwy bartneriaeth unigryw rhwng Amgueddfa Cymru a dau Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, bydd y llyfr poblogaidd Geiriau Diflanedig yn dod yn fyw yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi o Dydd Sul 2 Gorffennaf.

Mae Geiriau Diflanedig yn archwilio’r berthynas rhwng iaith a’r byd, a phŵer natur i ddeffro’r dychymyg. Bydd yr arddangosfa deithiol, sy’n cael ei threfnu gan Compton Verney, gyda Hamish Hamilton a Penguin Books, yn casglu ynghyd, am y tro cyntaf erioed, gwaith celf gwreiddiol Jackie Morris ochr yn ochr â cherddi Cymraeg wedi’u hysgrifennu gan Mererid Hopwood a cherddi Saesneg gan Robert Macfarlane.

Mae’r llyfr poblogaidd Geiriau Diflanedig yn defnyddio swynganeuon cyffrous a darluniau trawiadol i ail-gyflwyno wynebau diflanedig natur i’n geirfa ac, yn ei dro, ein hysbrydoli i ymuno â’r frwydr i wrthdroi eu cyflwr. Cafodd y cyhoeddiad Cymraeg, Geiriau Diflanedig, ei gyhoeddi gan Graffeg yn 2019.

Yn Oriel y Parc yn Nhyddewi, bydd gwrthrychau o gasgliadau hanes naturiol Amgueddfa Cymru hefyd yn cael eu defnyddio i dynnu sylw at faint o fioamrywiaeth sydd wedi’i cholli a bydd yn esbonio’r gwaith sy’n cael ei wneud i geisio atal y dirywiad hwn.

Bydd y cydweithrediad rhwng Amgueddfa Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn arddangos geiriau a dyfrlliwiau’r llyfr yn yr Ysgwrn yng Ngwynedd hefyd.

Bluebell iii © Jackie Morris

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig yn Oriel y Parc a’r Ysgwrn i annog rhagor o bobl i ddysgu mwy am Geiriau Diflanedig a defnyddio’r swynganeuon i’w hatgoffa o’u hatgofion hudolus o fyd natur.

Bydd Geiriau Diflanedig yn cael ei harddangos yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi o ddydd Sul 2 Gorffennaf 2023 hyd at wanwyn 2024. I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa hon, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/geiriau-diflanedig/.

Bydd Geiriau Diflanedig yn cael ei harddangos yn yr Ysgwrn, Trawsfynydd, o ddydd Sul 25 Mehefin hyd at wanwyn 2024. I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa hon, ewch i www.yrysgwrn.com/cynllunio-eich-ymweliad/arddangosfa-geiriau-diflanedig.

I gael rhagor o wybodaeth am y llyfr The Lost Words, ewch i www.thelostwords.org.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.