9.4 C
Llanelli
Thursday, March 5, 2026
Home Local News Dewch o hyd i hwyl greadigol wedi’i ysbrydoli gan Geiriau Diflanedig yn...

Dewch o hyd i hwyl greadigol wedi’i ysbrydoli gan Geiriau Diflanedig yn Oriel y Parc yr haf hwn

0
415
OrielyParcWorkshop min
OrielyParcWorkshop min

Mae Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai hwyliog yr haf hwn i ysbrydoli pobl i fod yn greadigol ac ailgysylltu â byd natur.

Agorodd yr arddangosfa Geiriau Diflanedig yn Oriel y Parc ar ddydd Sul 2 Gorffennaf a bydd ar agor yn Nhyddewi tan 28 Ebrill 2024. Mae’r brif oriel ar agor bob dydd rhwng 10am a 4pm.

O ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf i ddydd Sul 3 Medi bydd Llwybr Hwyl yr Haf wedi’i ysbrydoli gan Geiriau Diflanedig yn rhoi cyfle i chi ddod o hyd i’r marcwyr ar y llwybr synhwyraidd i greu eich cerdd natur. £3 y plentyn. Hefyd yn cynnwys gwobr fach!

Bydd weithdai dan arweiniad artistiaid ar bob ddydd Mercher ym mis Awst. Tocynnau yn £5 y plentyn. Sylwch fod archebu lle yn hanfodol ar gyfer rhai gweithdai gan fod niferoedd yn gyfyngedig.

Ar ddydd Mercher 2 Awst bydd gweithdy clai Adar mewn llaw gyda Kate Evans gyda sesiynau 11am-12 canol dydd a 1.30pm-2.30pm, yn rhoi cyfle i chi defnyddio eich dwylo i greu aderyn clai gyda neges at natur wedi ei guddio ynddi. Archebu’n hanfodol.

Pennawd: Agorodd yr arddangosfa Geiriau Diflanedig yn Oriel y Parc ar ddydd Sul 2 Gorffennaf a bydd ar agor yn Nhyddewi tan 28 Ebrill 2024.

Ar ddydd Mercher 9 Awst bydd cyfle i ymuno a Hannah Rounding i greu papur wedi’i argraffu â llaw gan ddefnyddio brwsys paent naturiol ac offer argraffu cartref i wneud gludwaith o blanhigion ac anifeiliaid wedi’u hysbrydoli gan Geiriau Diflanedig. Sesiynau 11am-12 canol dydd a 1pm-2pm. Archebu’n hanfodol.

Bydd Kate Freeman yn arwain gweithdy Arlunio o Natur gydag inc a brwsh ar ddydd Mercher 16 Awst o 10.30am-12 canol dydd a 1.30pm-3pm. Gan astudio planhigion a dail yn ein tiroedd, crëwch farciau a thrawiadau brwsh gydag inciau ac offer wedi’u gwneud â llaw yn eich llyfr braslunio eich hun. Archebu’n hanfodol.

Bydd Hannah Rounding yn dychwelyd ar ddydd Mercher 23 Awst i arwain gweithdai Monoprintiau natur o 11am-12 canol dydd a 1pm-2pm. Bydd y gweithdai yn seiliedig ar natur a Geiriau Diflanedig gan ddefnyddio techneg argraffu fono syml y gallwch ei defnyddio gartref. Archebu’n hanfodol.

Bydd sesiynau galw heibio Cardiau post natur rhwng 11am-3pm ar ddydd Mercher 30 Awst. Ymunwch â’n gweithdy i wneud eich cerdyn post natur eich hun o ddelweddau a darganfyddiadau o amgylch Sir Benfro. £3 y plentyn.

I archebu eich lle ar weithdy, ewch i https://pembrokeshirecoast.bookinglive.com/oriel-y-parc-cy

Mae’r arddangosfa Geiriau Diflanedig yn archwilio’r berthynas rhwng iaith a’r byd, a phŵer natur i ddeffro’r dychymyg. Bydd yr arddangosfa deithiol, sy’n cael ei threfnu gan Compton Verney, gyda Hamish Hamilton a Penguin Books, yn casglu ynghyd, am y tro cyntaf erioed, gwaith celf wreiddiol Jackie Morris ochr yn ochr â cherddi Cymraeg wedi’u hysgrifennu gan Mererid Hopwood a cherddi Saesneg gan Robert Macfarlane.

Pennawd: Agorodd yr arddangosfa Geiriau Diflanedig yn Oriel y Parc ar ddydd Sul 2 Gorffennaf a bydd ar agor yn Nhyddewi tan 28 Ebrill 2024.

Mae geiriau a dyfrlliwiau’r llyfr yn cael eu harddangos yn yr Ysgwrn yng Ngwynedd hefyd fel rhan o’r cydweithrediad rhwng Amgueddfa Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa eiriau Diflanedig ewch i ihttps://www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/geiriau-diflanedig/.

I gael rhagor o wybodaeth am oriau agor yn ogystal â digwyddiadau ac arddangosfeydd eraill yn Oriel y Parc ewch I https://www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.