MAE PROSIECT PENTRE AWEL YN YMFFURFIO GYDA’R STRWYTHUR DUR CYNTAF

0
404
Pentre Awel 3.8.23 LtR Wesley Shufflebottom Shufflebottom Cllr Gareth John Peter Sharpe Bouygues UK Cllr Darren Price and Ian Mills Dyfed Reinforcements scaled
Pentre Awel 3.8.23 LtR Wesley Shufflebottom Shufflebottom Cllr Gareth John Peter Sharpe Bouygues UK Cllr Darren Price and Ian Mills Dyfed Reinforcements scaled

Mae Bouygues UK a Chyngor Sir Gâr wedi dangos y strwythur dur cyntaf ar gyfer prosiect arloesol Pentre Awel. Dyma’r adeilad cyntaf o bump, a bydd yn gartref i ddatblygiad addysg a busnes. 

 Ymunodd arweinwyr o Gyngor Sir Gâr â chynrychiolwyr o Bouygues UK a’r contractwyr lleol, Shufflebottom a Dyfed Steels, i weld y strwythur dur, sy’n garreg filltir sylweddol yn y prosiect.

 Mae’r prosiect, sy’n werth miliynau o bunnoedd, yn cael ei gyflawni gan Gyngor Sir Gâr, ac ef yw’r cynllun adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru. Bydd yn dwyn ynghyd arloesedd gwyddor bywyd a busnes, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern ar safle 83 erw Llynnoedd Delta ar arfordir Llanelli. Fe’i hariennir yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40miliwn), ac ef yw’r cynllun adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru.

 Mae Bouygues UK, sef y prif gontractwr, wedi ymrwymo i ddefnyddio isgontractwyr lleol yn rhan o’i ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a sgiliau i bobl leol a grwpiau nad ydynt yn cael cynrychiolaeth ddigonol.  

 Dyfed Steels sy’n darparu’r bar atgyfnerthu ar gyfer sylfeini’r prosiect, sydd â 98% o gynnwys wedi’i ailgylchu, a Shufflebottom sy’n darparu’r dur strwythurol ar gyfer yr adeilad, sydd â 80% o gynnwys wedi’i ailgylchu. Gydag ymrwymiad i dreftadaeth yr ardal, mae’r ffrâm ddur hefyd yn darparu cyswllt hanesyddol â’r adeiladau diwydiannol blaenorol a leolwyd ar y safle. Mae’r rhain yn cynnwys Gweithfeydd Tunplat De Cymru a Melinau (Tunplat) Richard Thomas.

Llun dau: (CiDd) Peter Sharpe (Bouygues UK), Cllr Daren Price, Cllr Gareth John, Stephen Davies (Bouygues UK).

Dywedodd Peter Sharpe, Cyfarwyddwr Prosiect Pentre Awel Bouygues UK, fod y strwythur dur yn gam arwyddocaol i’r prosiect. 

 Meddai: “Dyma garreg filltir adeiladu bwysig ym Mhentre Awel, ac un gyffrous, gan y gallwn ni ddechrau gweld y strwythur yn ymffurfio, sy’n rhoi syniad o ba mor fawr yw’r prosiect. Mae gan fframio dur hanes profedig o ddarparu buddion cynaliadwy, ac mae hefyd yn cynnig buddion cost sylweddol o’i gymharu â deunyddiau amgen. 

 I ni, mae’n bwysig iawn bod gennym gynifer o isgontractwyr â phosib yn gweithio ar y prosiect hwn gyda ni, ac mae’n wych cael croesawu ein gwesteion o’r cwmnïau lleol Shufflebottom a Dyfed Steels i weld y cynnydd sy’n cael ei wneud yma.”

 Ychwanegodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Gâr:

 “Er bod y gwaith wedi bod yn mynd rhagddo’n gyflym ers misoedd lawer, mae’r garreg filltir hon yn nodi dechrau’r gwaith uwchben y ddaear. Rydym wrth ein bodd bod busnesau o Sir Gâr, sef Shufflebottom o Cross Hands, a Dyfed Steels o Ddafen, yn chwarae rhan mor arwyddocaol yn y gwaith o adeiladu Parth 1. Mae eu sgil a’u harbenigedd fel dau fusnes lleol sy’n ein helpu i gyflawni’r hyn a fydd yn gyfleuster gwych ym Mhentre Awel yn rhoi hwb sylweddol i’r economi leol. Mae hyn, ochr yn ochr â rhaglen ategol y prosiect o brentisiaethau, recriwtio a hyfforddiant, yn adlewyrchu uchelgais ar y cyd ar ran y Cyngor Sir a Bouygues UK i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd i bobl a busnesau lleol.” 

 Yn ogystal â Shufflebottom a Dyfed Steels, mae cwmnïau eraill sydd wedi’u contractio i weithio ar Bentre Awel yn cynnwys: Green4Wales, Redsix Partnership, Gavin Griffiths Group, Davies Crane hire, Dyfed Recycling Services ac Owen Haulage. Mae gan Bouygues UK gyfleoedd ar gyfer crefftau niferus dros ychydig flynyddoedd nesaf y prosiect, o’r rhai mewn gwaith allanol i gwmnïau sy’n arbenigo mewn gosodiadau mewnol.

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here