5.8 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home Newyddion Lle Nod y Llwybr Blychau Barddoniaeth yw ysbrydoli pobl i ysgrifennu cerddi eu...

Nod y Llwybr Blychau Barddoniaeth yw ysbrydoli pobl i ysgrifennu cerddi eu hunain am fyd natur

0
457
Poetrybox2 min
Poetrybox2 min

Mae blychau barddoniaeth wedi cael eu gosod o amgylch Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i annog pobl i ailgysylltu â natur ac i ysgrifennu eu cerddi eu hunain i rannu eu profiad gyda phobl sy’n mynd heibio.

Mae’r llwybr wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa Geiriau Diflanedig, sy’n cael ei harddangos yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, ac mae’n un o’r gweithgareddau sy’n cael eu trefnu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i annog pobl i fwynhau ychydig funudau yn yr awyr agored ar Arfordir Penfro.

Yn ôl Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc: “Mae ein gwirfoddolwyr Llwybrau a thîm yr oriel wedi bod yn ofalus iawn yn creu ac yn addurno’r naw blwch barddoniaeth, gyda dyluniadau gwych i ddal sylw’r rheini sy’n mwynhau seibiant yn y Parc Cenedlaethol.

Poetry box

“Mae pobl yn cael eu gwahodd i agor y blwch, edrych ar y pad ysgrifennu, darllen beth mae pobl eraill wedi’i nodi, ac ysgrifennu ychydig o linellau am yr adegau maen nhw wedi cael cysylltiad â natur.

“Yna, maen nhw yn ei roi yn ôl yn y blwch er mwyn i’r person nesaf allu mwynhau eu creadigaethau llenyddol, p’un a yw’n swyngan acrostig fel y gwelwch chi yn Y Geiriau Diflanedig neu ychydig o linellau sy’n disgrifio’r hyn rydych chi wedi’i weld neu ei glywed.”

Mae’r blychau barddoniaeth i’w gweld yng Nghastell Henllys, Sychpant, Pen-caer, Oriel y Parc, Maes Awyr Tyddewi, Haroldston Chins, Sain Ffraid, Castell Caeriw a Skrinkle Haven.

Bydd yr arddangosfa deithiol Geiriau Diflanedig, sy’n cael ei threfnu gan Compton Verney, gyda Hamish Hamilton a Penguin Books, yn cyflwyno gwaith celf gwreiddiol Jackie Morris a cherddi Cymraeg gan Mererid Hopwood a cherddi Saesneg gan Robert Macfarlane, am y tro cyntaf erioed.

Mae’r cydweithrediad unigryw rhwng Amgueddfa Cymru ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Eryri yn golygu bod geiriau a dyfrlliwiau’r llyfrau yn cael eu harddangos yn yr Ysgwrn yng Ngwynedd ac yn Oriel y Parc yn Sir Benfro.

I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa Geiriau Diflanedig a gweithgareddau eraill sy’n cael eu cynnal yn Oriel y Parc, ewch i www.orielyparc.co.uk/geiriau-diflanedig


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.