9.6 C
Llanelli
Monday, March 16, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Naid am Nawdd yn codi £2,000 i Ysbyty De Sir Benfro

Naid am Nawdd yn codi £2,000 i Ysbyty De Sir Benfro

0
336
Sunderland Ward Skydive min
Sunderland Ward Skydive min

Mae tri aelod o staff o Ward Sunderland yn Ysbyty De Sir Benfro wedi herio naid am nawdd elusennol i godi arian ar gyfer y ward. 

Cymerodd Bex, Tracy a Denise ran yn y naid am nawdd tandem elusennol yn Skydive Swansea ar 3 Mehefin 2023.

 Codwyd £2,000 ar gyfer gweithgareddau i gleifion ar Ward Sunderland, ward adsefydlu â 40 gwely.

Dywedodd Rebecca Richards, Nyrs Arweiniol Clinigol – Ysbytai Cymunedol Sir Benfro: “Roedd y naid o’r awyr yn brofiad gwych i’r tri aelod o staff o Ward Sunderland.

“Rwyf mor falch ei fod wedi bod yn ddiwrnod heulog ac roeddem wedi gallu cyrraedd ein targed trwy ein tudalen JustGiving a rhoddion ariannol. Rydyn ni eisiau dweud diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi ein cefnogi.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.