12.5 C
Llanelli
Wednesday, March 4, 2026
Home Dwr Cymru Dŵr Cymru’n cynllunio buddsoddi record o £3.5bn rhwng 2025 a 2030 gyda...

Dŵr Cymru’n cynllunio buddsoddi record o £3.5bn rhwng 2025 a 2030 gyda ffocws mawr ar amddiffyn yr amgylchedd

0
423
Dwr Cymru Logo
Dwr Cymru Logo
  • Cynlluniau i fuddsoddi £3.5 biliwn rhwng 2025 a 2030 – 68% yn fwy na 2020-25
  • Bydd yn buddsoddi £1.9 biliwn yn yr amgylchedd – 84% yn fwy na 2020-25
  • Mwy o gymorth i aelwydydd ag incwm isel
  • Ymchwil yn dangos bod y cynlluniau’n dderbyniol i 84% o gwsmeriaid

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cyflwyno’i Gynllun Busnes arfaethedig (y ‘Cynllun’) ar gyfer 2025-30 i Ofwat, rheoleiddiwr y diwydiant dŵr.  Os bydd Ofwat yn cydsynio i’r Cynllun, hwn fydd rhaglen fuddsoddi fwyaf erioed y cwmni, gan gynnig gwerth £3.5 biliwn o fuddsoddiad dros gyfnod o bum mlynedd, sydd gyfwerth â chynnydd o 68% ar y buddsoddiad rhwng 2020 a 2025.

Ffocws allweddol yn y Cynllun yw mabwysiadu dull cydweithredol o leihau ei effaith ar yr amgylchedd, ac yn arbennig chwarae ei rhan wrth helpu i wella ansawdd dŵr afonydd. Mae Dŵr Cymru’n ymrwymo i fuddsoddi bron i £1.9 biliwn yn yr amgylchedd rhwng 2025 a 2030 – 84% yn fwy na 2020-25. Bydd hyn yn cynnwys lleihau’n sylweddol faint o ffosfforws sy’n cael ei ryddhau o brosesau trin dŵr gwastraff i afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, a dechrau rhaglen dros sawl AMP i atal ei rwydwaith o 2,300 o orlifoedd storm rhag achosi difrod amgylcheddol i afonydd yn ei ardal weithredu.

Yn seiliedig ar berfformiad cyfredol y cwmni (2022/23), ymhlith ei ymrwymiadau eraill erbyn 2030 mae:

  • o gwella cydymffurfiaeth dŵr yfed chwtogi 57% ar y cysylltiadau gan gwsmeriaid ynghylch ansawdd dŵr tap;
  • lleihau gollyngiadau ar ei rwydwaith o chwarter (yn erbyn meincnod 2019-20) a helpu cwsmeriaid i atal gollyngiadau yn eu cartrefi a’u busnesau;
  • lleihau cyfanswm nifer y digwyddiadau o lygredd trwy 24%;
  • o gweithio tuag at ‘Gymru ddi-blwm’ trwy ddisodli pibellau plwm 7,500 o gwsmeriaid;
  • cyflawni gwerth £42 miliwn o arbedion cost trwy ddarbodaeth a dulliau arloesol o weithio;
  • cyfrannu £13 miliwn y flwyddyn rhwng 2025-30 i gynnal ei gynllun tariffau cymdeithasol a chreu’r capasiti i ddarparu ar gyfer cynnydd yn y galw am y tariffau cymdeithasol, gan gynyddu o 133,000 i 190,000

Trwy gyflawni’r cynllun yma, bydd Dŵr Cymru’n cyfrannu mwy fyth at economi Cymru, gan adeiladu ar yr £1 biliwn y mae’n ei gyfrannu bob blwyddyn, a chynnal mwy na 9,000 o swyddi llawn-amser.  Mae’r Cynllun yn ategu ei fwriad i fod yn gwmni carbon niwtral erbyn 2040 hefyd, gan ddod o hyd i ffyrdd o gyflawni rhaglen fuddsoddi cyfalaf pwysig mewn ffyrdd carbon isel sy’n llesol i fyd natur.

Er mwyn cynnal y rhaglen eang ac uchelgeisiol yma, bydd y bil misol cyfartalog yn cynyddu £5 yn 2025, a fydd yn cynyddu i £10 yn fwy erbyn 2030. Mae gwaith ymchwil y cwmni wedi dangos bod y cynllun yn dderbyniol ym marn 84% o’i gwsmeriaid. Gan gydnabod y sialensiau parhaus sy’n wynebu cwsmeriaid o ran costau byw, mae Dŵr Cymru’n bwriadu cynyddu’r cymorth gorau yn y sector y mae’n ei gynnig i gwsmeriaid mewn amgylchiadau bregus, gan ddefnyddio cyllid sydd ond yn bosibl diolch i’w statws nid-er-elw.

Mae datblygiad y Cynllun pum mlynedd wedi cael ei lywio gan gwsmeriaid domestig a busnes a chan y canllawiau strategol a bennwyd gan Fforwm PR24 dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Mae’n blaenoriaethu gwella ansawdd dŵr afonol a mynd i’r afael â sialens gorlifoedd storm, gwella gwasanaethau allweddol, a chryfhau gwytnwch yn wyneb y sialensiau sy’n wynebu’r cwmni, a newid hinsawdd yn arbennig.

Mae Dŵr Cymru’n gwasanaethu mwy na thair miliwn o bobl ar draws y rhan fwyaf o Gymru, Sir Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy a Sir Gaer.  Ers 2001, y cwmni yw’r unig gwmni cyfleustodau heb gyfranddeiliaid yng Nghymru a Lloegr – sy’n golygu bod unrhyw elw y mae’n ei wneud yn cael ei ail-fuddsoddi er budd ei gwsmeriaid. Mae hyn wedi galluogi’r cwmni i fuddsoddi cronfeydd ychwanegol o dros £570 miliwn trwy gyflymu buddsoddiad er mwyn gwella gwasanaethau a thariffau cymdeithasol i gynorthwyo’r cwsmeriaid â’r incwm isaf.

 

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry:  “Dyma ein Cynllun Busnes mwyaf uchelgeisiol erioed, ac fel cwmni nid-er-cyfranddeiliaid, buddiannau a blaenoriaethau ein cwsmeriaid sydd wrth wraidd ein cynllun a phopeth a wnawn. Er ei bod hi’n dipyn o her, rydyn ni’n hyderus bod modd cyflawni ac ariannu’r gwaith yma, a bydd yn helpu i sbarduno newid sylweddol yn ein perfformiad dros y blynyddoedd sydd i ddod.

“Rydyn ni wedi gallu cadw biliau’n wastad neu’n is mewn termau go iawn dros y 10 mlynedd diwethaf, ond mae angen i ni fuddsoddi yn ein systemau dŵr a dŵr gwastraff er mwyn mynd i’r afael â sialensiau newid hinsawdd, amddiffyn ein hafonydd, a chryfhau gwytnwch ein cyflenwadau dŵr.   Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod y mwyafrif o’n cwsmeriaid yn derbyn bod y buddsoddiad yma’n angenrheidiol ac na ddylid ei ohirio. O’n rhan ni, byddwn ni’n parhau i arloesi a datblygu effeithlonrwydd ein gweithrediadau er mwyn lleihau costau lle bynnag y gallwn ni.

“Rydyn ni ond yn rhy ymwybodol pa mor anodd y mae’r blynyddoedd diwethaf yma wedi bod i’n cwsmeriaid, a dyna pam mae’r Cynllun yn cynnwys cymorth ychwanegol sylweddol i gwsmeriaid sy’n ei chael hi’n anodd tynnu dau ben llinyn ynghyd.”

Dywedodd Alistair Lyons, Cadeirydd Glas Cymru:  “Mae’r Cynllun Busnes yn dechrau strategaeth dros sawl AMP i daclo ein heffaith ar yr amgylchedd, ac yn benodol ansawdd y dŵr yn ein hafonydd.  Ei nod hefyd yw cryfhau gwytnwch ein gweithrediadau er mwyn cynorthwyo’r rhaglenni rydyn ni eisoes y gweithio arnynt er mwyn gwella ein perfformiad lle nad ydym yn taro’r nod ar hyn o bryd.  Rydyn ni eisoes yn gweld sut y mae newid hinsawdd yn mynd i fod yn sialens i ni yn y ddau faes yma.

“Rydyn ni’n credu bod y Cynllun yma’n ddatblygiad uchelgeisiol i gyflawni amcanion strategaeth hirdymor Dŵr Cymru 2050, a hynny wrth ddarparu gwerth da i gwsmeriaid yn nhermau beth gaiff ei gyflawni.  Daw ein rhaglen fuddsoddi gwerth £3.5bn â chyfleoedd sylweddol i gynyddu ein cyfraniad at economi Cymru, gan gynnal miloedd o swyddi ar draws Cymru.”

Mae Cynllun Busnes Dŵr Cymru 2025-2030 eisoes wedi cael ei archwilio gan y Grŵp Her Annibynnol (ICG) i sicrhau ei fod yn adlewyrchu blaenoriaethau’r cwsmeriaid yn ogystal â rhai’r rheoleiddwyr a’r rhanddeiliaid eraill.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.