9.7 C
Llanelli
Sunday, March 1, 2026
Home Farming Cyngor ymarferol ar gael i ffermwyr Cymru mewn dosbarth meistr gwndwn llysieuol...

Cyngor ymarferol ar gael i ffermwyr Cymru mewn dosbarth meistr gwndwn llysieuol newydd

0
398
Master Herbal Meistr Gwndwn Llysieuol
Master Herbal Meistr Gwndwn Llysieuol

Mae dosbarth meistr a grëwyd i roi sgiliau a gwybodaeth ddefnyddiol i ffermwyr dyfu, cynnal a phori gwndwn llysieuol yn cael ei lansio gan Cyswllt Ffermio.

Bydd Meistr Gwndwn Llysieuol, y diweddaraf mewn cyfres o ddosbarthiadau meistr rhad ac am ddim a gynhelir gan Cyswllt Ffermio, yn arwain tyfwyr ar sut i sefydlu a rheoli cymysgedd amrywiol sydd o fudd i dda byw, iechyd y pridd a’r amgylchedd, ac i wneud hynny’n llwyddiannus.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y cwrs undydd yn cael cyfle i ddysgu sut i asesu iechyd y pridd yn weledol er mwyn deall y ffactorau sy’n cyfyngu ar gynhyrchiant a byddant yn cael gwybod sut y gellir gwella’r sefyllfa trwy gyflwyno rhywogaethau amrywiol gan gynnwys glaswellt, codlysiau a pherlysiau.

Ymdrinnir hefyd â sut i gynllunio system gwndwn llysieuol sy’n briodol i weithrediad ffermio.

Unwaith y bydd gwndwn wedi’i sefydlu mae’n rhaid eu rheoli felly bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael arweiniad gan arbenigwyr ar strategaethau pori sy’n gwneud y gorau o berfformiad anifeiliaid a hirhoedledd planhigion.

Cynhelir y cwrs yn Abergele ar 27 Hydref 2023, rhwng 10.30am a 3.30pm.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23 Hydref am 10.30am a gofynnir i ymgeiswyr ddarparu ystod o wybodaeth gyda’u cais i ganiatáu i’r cwrs gael ei deilwra i ofynion penodol.

Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/sgiliau-hyfforddiant/cwrs-meistr/meistr-gwndwn-llysieuol


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.