Y Gweinidog Addysg yn ymuno â Diwrnod Dathlu Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro

0
327
PODS1
PODS1

Cafodd deg ysgol yn Sir Benfro eu cydnabod yn ddiweddar am eu hymrwymiad i ddysgu yn ac am yr amgylchedd naturiol mewn Diwrnod Dathlu arbennig ar gyfer Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal ym Maenordy Scolton ger Hwlffordd ac roedd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, yno i gyflwyno tystysgrifau i staff ac i ddisgyblion o’r ysgolion llwyddiannus. Cafodd y disgyblion gyfle hefyd i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau awyr agored o adeiladu cuddfannau ac adnabod bywyd gwyllt i weithdai mwd a helfeydd bwystfilod bach.

Roedd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, wedi cyflwyno plac Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro i bob un o’r ysgolion a oedd yno i gydnabod eu hymrwymiad i ddysgu yn yr awyr agored.

Roedd partneriaid PODS hefyd yn bresennol gan gynnwys cynrychiolwyr o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Canolfan Darwin, Cyngor Sir Penfro, Tir Coed, Fforwm Arfordir Sir Benfro, Cadwch Gymru’n Daclus a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Roedd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, wedi cyflwyno plac Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro i bob un o’r ysgolion a oedd yno i gydnabod eu hymrwymiad i ddysgu yn yr awyr agored.

Dywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Roedd hi’n wych gweld enghreifftiau o ysgolion a phartneriaid yn Sir Benfro yn cydweithio i ddarparu profiadau awyr agored i blant.

Llun o Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, gyda Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a’r Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod y Parc.

“Mae chwarae a dysgu yn yr awyr agored yn meithrin parch gydol oes at fyd natur ac at yr amgylchedd ac mae’n fuddiol i iechyd meddwl a chorfforol plant, yn ogystal â’u helpu i ddatblygu sgiliau datrys problemau.”

Roedd y disgyblion wedi mwynhau amrywiaeth o weithgareddau awyr agored o gynnau tân, adeiladu cuddfannau ac adnabod bywyd gwyllt i weithdai mwd a helfeydd bwystfilod bach.

Dywedodd Bryony Rees, Cydlynydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro: “Roedd hi’n wych gallu cyflwyno Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i rai o’r ysgolion lleol sydd wedi gwneud addysg awyr agored yn rhan allweddol o’u cwricwlwm ysgol.

Roedd y disgyblion wedi mwynhau amrywiaeth o weithgareddau awyr agored o gynnau tân, adeiladu cuddfannau ac adnabod bywyd gwyllt i weithdai mwd a helfeydd bwystfilod bach.

“Roedd hi’n arbennig o addas cael y ddau bennaeth a oedd wedi sefydlu PODS, Simon Thomas a Kevin Phelps, yn bresennol i ddathlu’r garreg filltir hon wrth i’r bartneriaeth geisio datblygu a sicrhau cyllid i barhau â’i gwaith yn y dyfodol.”

Roedd y disgyblion wedi mwynhau amrywiaeth o weithgareddau awyr agored o gynnau tân, adeiladu cuddfannau ac adnabod bywyd gwyllt i weithdai mwd a helfeydd bwystfilod bach.

Ychwanegodd Kevin Phelps, Pennaeth Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Tafarn Ysbyty a Thredeml: “Roedd Simon a minnau wrth ein bodd ein bod wedi cael ein gwahodd i’r digwyddiad gwych hwn. Mae hi wedi bod yn anhygoel gweld syniad a gawson ni flynyddoedd yn ôl yn datblygu i fod yn brosiect mor bwysig, gan ddod â phrofiadau dysgu o ansawdd yn yr awyr agored i gynifer o’n dysgwyr.”

Roedd y disgyblion wedi mwynhau amrywiaeth o weithgareddau awyr agored o gynnau tân, adeiladu cuddfannau ac adnabod bywyd gwyllt i weithdai mwd a helfeydd bwystfilod bach.

Y deg ysgol a oedd yn y diwrnod dathlu oedd Ysgol Gynradd Tafarn Ysbyty, Ysgol Gynradd Tredeml, Ysgol Cas-mael, Ysgol Gynradd Hook, Ysgol Gymunedol Pennar, Ysgol Gynradd Gatholig Teilo Sant, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn, Ysgol Gynradd Cosheston, Ysgol y Glannau ac Ysgol Aberllydan.

Roedd y disgyblion wedi mwynhau amrywiaeth o weithgareddau awyr agored o gynnau tân, adeiladu cuddfannau ac adnabod bywyd gwyllt i weithdai mwd a helfeydd bwystfilod bach.

I gael rhagor o wybodaeth am PODS ewch i http://pembrokeshireoutdoorschools.co.uk/cy.

Diwedd


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here