Mae Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod, Coleg Sir Benfro ac Eglwys Ddiwygiedig Unedig Tabernacl Penfro ymysg y naw grŵp cymunedol sydd wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am gyllid gan y cynllun grantiau bach, Gweithredu dros Natur.
Cafodd y cynllun ei sefydlu yn 2021 gan Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro. Mae’n cynnig grantiau o hyd at £4,000 i brosiectau lleol sydd naill ai’n cefnogi bioamrywiaeth, yn creu mannau gwyrdd newydd, neu sy’n cyflawni ym maes cadwraeth neu newid hinsawdd.

Mae Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod wedi penderfynu defnyddio’r arian i blannu blodau sy’n ystyriol o bryfed peillio, a bydd grwpiau eraill fel Ysgol Harri Tudur, Coleg Sir Benfro ac Eglwys Ddiwygiedig Unedig Tabernacl yn buddsoddi mewn prosiectau ail-wylltio ac adfer cynefinoedd yn eu hardaloedd lleol.
Ymysg y cynigion llwyddiannus eraill sydd wedi elwa o’r rownd ddiweddaraf o gyllid gan Gweithredu dros Natur mae gardd synhwyraidd a llesiant yn Llawhaden; perllan gymunedol ym mhentref Dinas, sydd â choed afalau Cymreig a gwrychoedd brodorol; a gardd gymunedol yn Simpson Cross.
Yn ogystal â hyn, bydd Esteam, grŵp cymunedol yn Warren, yn defnyddio eu harian i adeiladu pwll bywyd gwyllt wedi’i leinio â chlai, a bydd Ysgol Gynradd Gymunedol Stepaside yn creu rhandir at ddibenion addysgol a’r gymuned leol.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Unwaith eto, rydyn ni’n falch iawn o’r ffordd mae grwpiau lleol wedi ymateb i’n cynllun Gweithredu dros Natur. Mae’r ffaith bod cymaint o geisiadau wedi dod i law yn dangos lefel yr ymrwymiad a’r dychymyg sydd gan bobl yn ein cymuned ar gyfer creu dyfodol mwy cynaliadwy i fyd natur.”
Daw’r cyllid ar gyfer y grant o’r Gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (a weinyddir gan CGGC), gyda chefnogaeth gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
I gael rhagor o wybodaeth am gynllun Gweithredu dros Natur, cofrestrwch i gael newyddion Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro drwy fynd i https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/dechrau-sgwrs-gyda-ni/.
Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gyda Chomisiwn Elusennau’r DU. Rhif cofrestru’r elusen yw 1179281.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |
















