22.7 C
Llanelli
Thursday, July 30, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Mae Elusen GIG Leol yn cynnig lleoedd am ddim i gefnogwyr yn...

Mae Elusen GIG Leol yn cynnig lleoedd am ddim i gefnogwyr yn Hanner Marathon Llanelli

0
349
Avril Powell scaled
Avril Powell scaled

Mae gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, leoedd AM DDIM i godwyr arian yn Hanner Marathon a 10k Llanelli 2024.

 Yn cael ei gynnal ar 25 Mawrth 2024, cynhelir Hanner Marathon Llanelli ar dir gwastad ar hyd llwybr arfordir y Mileniwm hardd lle byddwch chi’n mwynhau rhai o’r golygfeydd gorau sydd gan Sir Gaerfyrddin i’w cynnig.

 Mae’r Elusen yn gofyn i gyfranogwyr yr Hanner Marathon addo codi isafswm o £250 a chyfranogwyr yn y 10k o leiaf £100 mewn nawdd.

 Gall codwyr arian ddewis cefnogi ysbyty, ward, gwasanaeth neu adran benodol neu godi arian at ddibenion elusennol cyffredinol.

 Mae lleoedd ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.

 Cymerodd Avril Powell ran yn Hanner Marathon Llanelli 2023 i godi arian i Elusennau Iechyd Hywel Dda.

 Meddai: “Rwyf wastad wedi bod eisiau gwneud hanner marathon ac yn meddwl mai dyma’r ffordd orau i gychwyn.

“Codais arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip. Rwy’n adnabod ychydig o bobl sydd wedi cael cemotherapi yno ac eisiau dangos pa mor ddiolchgar ydw i i’r nyrsys a’r meddygon hyn am eu cefnogaeth a’u tosturi.”

 Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio gyda Frontrunner eto i gynnig lleoedd am ddim i’n cefnogaeth yn nigwyddiad 2024.

 “Rydyn ni’n meddwl y bydd yn ddiwrnod cofiadwy arall i’n codwyr arian! Os ydych chi am ddechrau eich taith redeg a chefnogi eich elusen GIG fel Avril, cofrestrwch heddiw!”

 I sicrhau eich lle yn Hanner Marathon Llanelli a 10k 2024 ewch i:

https://forms.office.com/pages/responsepage.aspx?id=uChWuyjjgkCoVkM8ntyPru0xBFrR5yFNiPPuI5CUyoZUMFdMMEFVUkk2MjRaWDRPRlUzQzY3NExHVi4u&web=1&wdLOR=c3A784E74-AEEB-4104-A089-01C96C7E85A3


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.