18.9 C
Llanelli
Tuesday, August 4, 2026
Home Newyddion Lle Gall degau o filoedd o gartrefi a busnesau gael myneiad at gyflymder...

Gall degau o filoedd o gartrefi a busnesau gael myneiad at gyflymder gigabit wrth i brosiect cyflwyno band eang ffeibr llawn gyrraedd y tu hwnt i’w dargedau

0
2701
PC v1 scaled
PC v1 scaled

Welsh Government News

Mae mwy na 44,000 o gartrefi a busnesau ledled Cymru yn elwa o well cysylltedd, diolch i fand eang ffeibr llawn cyflym a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mewn partneriaeth ag Openreach, mae’r prosiect pedair blynedd – sydd bellach wedi’i gwblhau – wedi rhoi mynediad at gysylltedd ffeibr llawn i filoedd yn fwy o eiddo na’r targed gwreiddiol o 39,000.

Gwariwyd llai ar gyflwyno’r band eang na’r gyllideb wreiddiol o £57 miliwn ar gyfer y gwaith, a ddarparwyd diolch i gyllid Llywodraeth Cymru a’r UE, buddsoddiad gan Openreach a chymorth gan Lywodraeth y DU.

Wrth i bobl a busnesau ledled Cymru symud tuag at fywydau a gweithleoedd cynyddol ddigidol, mae’r cysylltedd gwell yn adeiladu ar lwyddiant Cyflymu Cymru sydd wedi mwy na dyblu faint o fand eang cyflym sydd ar gael.

Gall pob eiddo sydd wedi elwa nawr gael mynediad at dechnoleg ‘Cysylltiad Ffeibr i’r Adeilad’ sydd wedi’i ddiogelu at y dyfodol, sy’n gallu darparu cyflymder a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid er mwyn lawrlwytho’n gyflymach a ffrydio’n llyfnach.

Ymhlith y miloedd o gartrefi a busnesau sydd wedi elwa o’r broses o gyflwyno band eang cyflym iawn, mae Castell Picton yn Sir Benfro, sy’n adeilad rhestredig Gradd 1.

Yn gynharach eleni cysylltwyd yr atyniad poblogaidd i dwristiaid â band eang ffeibr llawn o’r gyfnewidfa yn Hwlffordd sydd gerllaw. Mae hynny’n golygu y bydd y safle hanesyddol hwn bellach yn gallu elwa o ddatblygiadau digidol modern.

I ddechrau, bydd y cysylltiad band eang cyflymach yn gwneud bywyd yn haws i’r rhai sy’n gweithio yn y castell trwy well cysylltedd a diogelwch, gyda’r nod o wella profiad ymwelwyr yn y dyfodol.

Eglurodd Dr Rhiannon Talbot-English, Cyfarwyddwr Castell Picton: “Mae cyflwyno ffeibr llawn wedi bod yn welliant sylweddol i’n busnes.”

“Cyn y cysylltiad hwn, roedd y cyflymder lanlwytho a lawrlwytho araf ar y rhyngrwyd a oedd gennym yn golygu bod yr ystod o opsiynau ar gyfer gwella ein heffeithlonrwydd, ein seiberddiogelwch a’n busnes sylfaenol yn gyfyngedig.

“Yn aml, byddai ein e-bost, ein gwefan a’n dyfeisiau ar y rhyngrwyd yn cael eu llethu oherwydd y cysylltedd gwael. Mae’r cysylltiad newydd hwn wedi bod yn gam mawr ymlaen i ni.”

Mae’r rhaglen wedi gweld band eang ffeibr llawn yn cael ei gyflwyno ar raddfa ar draws rhannau mwyaf gwledig y wlad, gyda 33 prentis hefyd yn cael eu recriwtio i gefnogi’r gwaith o’i ddarparu.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae COVID-19 wedi newid y ffordd rydyn ni’n byw, yn gweithio, yn teithio ac yn  cymdeithasu, sy’n golygu bod cysylltiad band eang cyflym a dibynadwy yn bwysicach nag erioed – waeth ble yn y wlad yr ydych chi.

“Er nad yw band eang wedi’i ddatganoli, roeddem am gefnogi cymunedau lle nad oedd gan gwmnïau masnachol unrhyw gynlluniau i osod seilwaith band eang ffeibr llawn, a gwella cysylltedd ar draws pob rhan o Gymru.

“Pan ddechreuon ni’r daith hon yn 2019, llai na 7% o eiddo yng Nghymru oedd yn gallu cael mynediad at fand eang ffeibr llawn. Nawr rwy’n falch iawn y gall mwy na hanner yr holl gartrefi a busnesau fyw, gweithio neu astudio gyda chyflymder a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid, a hynny diolch i gyfuniad o arian cyhoeddus a masnachol.”

Dywedodd Kim Mears, Cadeirydd Bwrdd Openreach Cymru: “Does neb yn datblygu band eang ffeibr llawn ledled Cymru yn gyflymach nac yn ehangach nag Openreach.”

“O ran ein buddsoddiad masnachol a’r gwaith rydym wedi’i wneud mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

“Mae ein rhwydwaith ffeibr llawn cyflym iawn yn helpu i bontio’r rhaniad digidol, agor marchnadoedd newydd i fusnesau, dod â hwb economaidd sylweddol i economïau lleol a helpu teuluoedd i fyw, gweithio a chwarae.

“Rydym yn hynod falch o’r gwaith y mae ein peirianwyr lleol yn ei wneud ar hyd a lled y wlad mewn rhannau trefol a gwledig o Gymru ac mae ein partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn enghraifft wych o sut y gall busnesau a Llywodraeth gydweithio’n llwyddiannus er budd Cymru.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.