9.2 C
Llanelli
Wednesday, February 4, 2026
Home Business ariad at anifeiliaid ac angerdd am ffotograffiaeth yn datblygu i fod yn...

ariad at anifeiliaid ac angerdd am ffotograffiaeth yn datblygu i fod yn fusnes newydd i’r unigolyn talentog, Jessica Humphreys.

0
355
JessicaHumphreys2
JessicaHumphreys2

Mae’r cyn-fyfyriwr o Goleg Cambria wedi sefydlu ei chwmni ei hun – Emerald Pawtraits – ac mae eisoes yn sicrhau cwsmeriaid o bob rhan o Ogledd Cymru a thu hwnt drwy ei stiwdio ar Ystâd Ddiwydiannol Bromfield yr Wyddgrug.

Yn raddedig o’r cyrsiau Rheoli Anifeiliaid Lefel 3 a HND ar safle Cambria yn Llaneurgain, mae ganddi gynlluniau mawr ar gyfer 2024 a diolchodd i arweinydd y rhaglen, Sadie Thackaberry a’i chydweithwyr am gefnogi ei chyflawniadau academaidd a helpu i danio’r sbardun entrepreneuraidd y tu mewn iddi.

Jessica Humphreys

“Fe wnes i fwynhau fy amser yn Cambria yn fawr, a gyda fy nghariad at ffotograffiaeth roedd y syniad o gyfuno’r ddau angerdd mawr yn fy mywyd yn ymddangos yn gam nesaf perffaith i mi ar ôl coleg,” meddai’r ferch 20 oed o’r Wyddgrug.

Roedd canolbwyntio ar fywyd gwyllt a chadwraeth yn ogystal â phortreadau anifeiliaid anwes, a phrofiad o ymddygiad anifeiliaid, yn sicr wedi helpu i adeiladu fy hyder a fy nhrawsnewidiad o addysg i’r diwydiant yma.”

Ar ôl codi camera am y tro cyntaf yn blentyn, aeth Jessica ymlaen i ennill gwobr yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth Gŵyl Bwyd a Diod yr Wyddgrug yn 11 oed.

Wedi’i hysbrydoli gan ei chi Dotty, ac yn gwrthod gadael i Syndrom Tachycardia Orthostatig Postural – cyflwr sy’n achosi cynnydd yng nghyfradd curiad y galon ac a all arwain at bendro wrth newid ystum, fel eistedd i lawr neu sefyll i fyny – ddod yn rhwystr i lwyddiant, aeth hi hyd yn oed ymlaen i ennill Gwobr Ffotograffydd Bywyd Gwyllt Ifanc y Flwyddyn ar gyfer adran Bywyd Gwyllt y cylchgrawn Ffotograffiaeth Amatur, gyda’i delwedd anhygoel o lwynog trefol sydd i’w weld ar glawr Cylchgrawn Conker Nature.

Jessica Humphreys

“Rydw i wastad wedi bod wrth fy modd gyda ffotograffiaeth a phan wnes i ddechrau ei gymryd o ddifri, fe wnes i sylweddoli mai dyma beth rydw i eisiau ei wneud gyda gweddill fy mywyd,” meddai Jessica, a gafodd gefnogaeth hefyd gan Ymddiriedolaeth y Tywysog a Busnes Cymru ar lansio’r cwmni.

“Mae’n ddyddiau cynnar ond rydw i eisoes yn brysur iawn yma yn y stiwdio ac mae gen i lawer o syniadau ar gyfer y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, felly mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair.”

Jessica Humphreys

Ychwanegodd Sadie: “Rydyn ni mor falch o Jess, doedd o ddim yn syndod ei gweld yn mynd ymlaen i ddechrau ei hasiantaeth ei hun, o ystyried pa mor ysgogol, creadigol ac ymroddedig ydi hi i anifeiliaid a ffotograffiaeth.

“Rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddi gydag Emerald Pawtraits, mae hi wir yn ei haeddu.”

Ewch i www.emeraldpawtraits.co.uk neu anfonwch e-bost at info@emeraldpawtraits.co.uk i gael rhagor o wybodaeth am Emerald Pawtraits. Hefyd gallwch chi eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol ar @emeraldpawtraits.

I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.