9.6 C
Llanelli
Monday, March 16, 2026
Home Christmas Mwynhewch dri o ryfeddodau’r gaeaf gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol

Mwynhewch dri o ryfeddodau’r gaeaf gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol

0
537
SMALLGlow2
SMALLGlow2

Bydd atyniadau ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i fwynhau hwyl yr ŵyl, dod o hyd i;r anrhegion perffaith a chofleidio hudoliaeth y tymor wrth i’r dyddiau fyrhau ac i’r Nadolig nesáu.

Bydd Pentref Oes Haearn Castell Henllys, Castell Caeriw ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn cynnal eu rhaglenni eu hunain o weithgareddau a digwyddiadau tymhorol dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys y cyfle i roi eich rhestr o ddymuniadau i Siôn Corn, gwledd o oleuadau Nadolig a dathliad cynhanesyddol.

Yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, mae Blwch Post Pegwn y Gogledd wedi cyrraedd ac mae’n aros am eich negeseuon i Siôn Corn. Gellir casglu ymatebion ar ôl tri diwrnod, ynghyd â syrpreis o weithdy’r corachod. Bydd y gwasanaeth post rhad ac am ddim hwn yn parhau i fod ar gael tan ddydd Mawrth 19 Rhagfyr.

Bydd Llwybr y Corachod hefyd yn cael ei gynnal ar dir Oriel y Parc tan ddydd Gwener 22 Rhagfyr, gan roi cyfle i ymwelwyr ifanc chwilio am weithdai corachod hudolus a chasglu’r anrhegion, cyn cael anrheg Nadolig iddyn nhw eu hunain. Mae cymryd rhan yn y llwybr yn costio £3 i bob plentyn.

Ewch i www.orielyparc.co.uk i gael gwybod am ragor o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd ac i weld yr oriau agor dros y Nadolig.

I’r rheini sy’n teimlo’n llawn cyffro’r Nadolig, mae ‘Tywyn’ Castell Caeriw ar gael o hyd, yn rhad ac am ddim, rhwng 4.30pm a 7.30pm rhwng dydd Gwener a dydd Sul tan 17 Rhagfyr.

Yn ogystal ag effaith weledol syfrdanol y Castell mewn addurniadau Nadolig, gydag arddangosfeydd golau cyfareddol yn yr Ardd Furiog, bydd y digwyddiad eleni’n cynnwys ardal newydd sbon ar gyfer gemau a gweithgareddau ‘tywynnu yn y tywyllwch’ a pherfformiadau cerddorol byw ar benwythnosau. Gelli cael amseroedd perfformiadau a rhagor o wybodaeth yn www.castellcaeriw.com.

Bydd Ystafell De Nest ar agor tan 7.30pm drwy gydol cyfnod ‘Tywyn‘ gan weini amrywiaeth flasus o ffefrynnau Nadoligaidd.

Mae disgwyl mawr am Heuldro’r Gaeaf yng Nghastell Henllys. Bydd yn cynnig cyfle i ymwelwyr nodi noson hiraf y flwyddyn gyda chrefftau cynhanesyddol, chwedlau hynafol a chaneuon wrth ymyl y tân, ac mae pob tocyn wedi mynd.

Mae modd gweld manylion holl ddigwyddiadau Awdurdod y Parc Cenedlaethol www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.