11.7 C
Llanelli
Tuesday, March 17, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Rhoddion elusennol yn ariannu peiriant uwchsain cardiaidd newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais

Rhoddion elusennol yn ariannu peiriant uwchsain cardiaidd newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais

0
453
Cardiac ultrasound machine for Bronglais
Cardiac ultrasound machine for Bronglais

Diolch i’ch rhoddion hael i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae peiriant uwchsain cardiaidd newydd gwerth £73,500 wedi’i brynu ar gyfer Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth.

Mae’r peiriant newydd yn cynhyrchu delweddu uwchsain o’r galon, gan ddarparu gwybodaeth am swyddogaeth cardiaidd a falf y galon. Mae’n rhan bwysig o driniaeth ar gyfer llawer o gyflyrau, yn fwyaf arbennig ar gyfer cleifion â chlefyd cardiofasgwlaidd a chlefyd falf y galon, gan ddarparu gwybodaeth hanfodol ar gyfer rheoli clefydau.

Mae’r peiriant newydd yn disodli yr hen beiriant ac yn cyflwyno’r dechnoleg ddiweddaraf mewn peiriant lled-gludadwy.

Dywedodd Nerys James, Rheolwr Gwyddorau Gofal Iechyd y Galon ac Anadlol: “Mae peiriannau uwchsain cardiaidd yn hanfodol i alluogi diagnosis cyflym o glefydau cardiaidd. Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth yn darparu 35 o sganiau uwchsain brys, neu atseiniau, bob mis ar gyfartaledd ar gyfer cleifion mewnol, a 108 arall ar gyfer cleifion allanol.

“Diolch i’r peiriant newydd, byddwn yn gallu cefnogi cynlluniau i gynyddu capasiti eco yn Ysbyty Bronglais a sicrhau bod yr offer a ddefnyddiwn o safon diagnostig uchel iawn.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.