21.3 C
Llanelli
Saturday, August 15, 2026
Home Newyddion Lle Mwy o wasanaethau fflecsi i rwydwaith trafnidiaeth Gwynedd

Mwy o wasanaethau fflecsi i rwydwaith trafnidiaeth Gwynedd

0
12
fflecsi 5 1
fflecsi 5 1

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a Chyngor Gwynedd wedi cadarnhau y bydd gwasanaethau fflecsi yn Nolgellau a Dyffryn Dulas yn dechrau gweithredu ddydd Llun 19 Chwefror, fel rhan o’r gwelliannau diweddaraf i gysylltiadau trafnidiaeth yng Ngwynedd.

Bydd fflecsi Dolgellau yn rhedeg yn lle gwasanaethau bws arferol rhifau 33, 33A a 533 ac yn darparu cysylltiadau â Llanfachreth, Brithdir a Dinas Mawddwy.

Yn Nyffryn Dulas, bydd fflecsi yn disodli gwasanaeth bws rhif 34 a rhan o wasanaeth bws arferol rhif 30.  Bydd y gwasanaeth newydd yn cysylltu pentrefi ar hyd coridor yr A487 â Machynlleth – gan gynnwys Aberllefenni, Corris Uchaf, Corris, Minffordd a Pantperthog.

Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd ac yn cael ei weithredu gan Lloyds Coaches, bydd y gwasanaethau newydd hyn yn ychwanegiad i’r gwasanaeth poblogaidd ym Mhenrhyn Llŷn, sy’n ail-ddechrau fis Mawrth, gan wella cysylltiadau teithio ymlaen a darparu mwy o gyfleoedd i bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal.

Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Fel Cyngor, rydym yn awyddus i ddatblygu rhwydwaith cludiant cyhoeddus cyfleus, dibynadwy a rhesymol ei gost i bobl Gwynedd.

“Rydym wedi cyflwyno rhwydwaith newydd o wasanaethau bysiau ar gyfer ardal Meirionnydd yn ddiweddar sy’n ymgais i sicrhau gwasanaethau o safon i gymunedau gwledig. Y bwriad yw gwneud y ddarpariaeth mor atyniadol a phosib er mwyn tyfu nifer y defnyddwyr, gan wneud y gwasanaethau yn hyfyw yn yr hir-dymor.

“Mae’r gwasanaethau fflecsi newydd yma ar gyfer Dyffryn Dulas a Dolgellau yn rhan allweddol o’r gwelliannau yna, gan gynnig cyswllt cludiant pwysig i drigolion mewn ardaloedd gwledig a chan annog mwy o bobl i wneud y mwyaf o’r opsiynau cludiant cyhoeddus sydd ar gael.”

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol TrC: “Mae’n wych gweld dau wasanaeth fflecsi newydd yn cael eu lansio.  Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a chefnogi ein gweledigaeth ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gwirioneddol integredig.

“Bydd y gwasanaethau hyn yn rhoi dewis arall i gymunedau yn hytrach na’r teithiau pob dydd a wneir mewn car, yn ogystal â helpu i gynyddu twristiaeth gynaliadwy mewn ardal o Gymru sy’n gweld miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.”

Mae fflecsi yn wasanaeth bws sy’n ymateb i’r galw nad oes ganddo lwybr ac amserlen sefydlog ond yn hytrach, parth gweithredu, sy’n caniatáu i deithwyr gael eu codi a’u gollwng unrhyw le o fewn y parth fflecsi hwnnw.

Yn hytrach na bod teithwyr yn aros am y bws wrth safle bws, gallant archebu taith ymlaen llaw gan ddefnyddio ap fflecsi, neu ffonio 0300 234 0300.

Unwaith y bydd y gwasanaethau newydd wedi bod yn gweithredu ers ychydig wythnosau, bydd TrC, Cyngor Gwynedd a Lloyds Coaches yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu yn y ddau faes.  Cyhoeddir manylion y digwyddiadau hyn yn fuan.

Gallwch ddarllen rhagor yn: fflecsi | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.