9.6 C
Llanelli
Wednesday, March 4, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Dim ond pleidlais i Blaid Cymru fydd yn rhoi buddiannau Cymru gyntaf...

Dim ond pleidlais i Blaid Cymru fydd yn rhoi buddiannau Cymru gyntaf mewn etholiad cyffredinol eral Election

0
1550

Bydd ethol mwy o ASau Plaid Cymru yn etholiad cyffredinol y DU yn cadw’r Torïaid allan, yn rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf ac yn anfon neges i Lafur i beidio cymryd Cymru’n ganiataol, meddai arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS heddiw.

Mewn neges o obaith yng Nghynhadledd Wanwyn y blaid yng Nghaernarfon, fe fydd Mr ap Iorwerth yn dweud bod Plaid Cymru yn “sefyll ar wahân i wleidyddiaeth sefydliadol y DU” gan ei bod“ddim eisiau i’r dyfodol edrych fel y gorffennol ac eisiau i bobol deimlo gobaith am wleidyddiaeth unwaith eto.”

Wrth fynd i’r afael â record y llywodraeth Geidwadol ddirmygus, bydd Arweinydd y Blaid yn dweud “o Ynys Môn i Fynwy, mae ASau Ceidwadol wedi cefnogi cyfundrefn ddrylliedig gan achosi difrod di-ddweud i’r bobl y maent i fod i’w gwasanaethu.”

Mae pleidlais i Lafur yn yr Etholiad Cyffredinol yn gymeradwyaeth o ‘uniongrededd y Torïaid’ meddai Mr ap Iorwerth.

Wrth wneud sylwadau ar y Prif Weinidog sydd newydd ei ethol bydd Mr ap Iorwerth yn dweud;

“Rwy’n ailadrodd y llongyfarchiadau a estynnais i Vaughan Gething ar ei fuddugoliaeth yn yr etholiad y penwythnos diwethaf.

 

Yn wir, gwnaf hynny gyda didwylledd, gan wybod yn iawn yr anrhydedd a’r cyfrifoldeb a ddaw yn sgil swydd yr arweinydd.

 

Ond yn union fel y dywedodd Rishi Sunak yn eironig ei fod yn cynnig “newid”, mae’n wir hefyd mai’r unig ‘newydd-deb’ gyda’r arweinydd Llafur newydd yng Nghymru yw’r ffaith llythrennol mai dim ond am ddau ddiwrnod y mae wedi bod yn ei swydd.

 

Arweinydd Newydd, ie.

 

Ochenaid o ‘yr un peth eto’? Yn sicr.

 

A pheidiwch ag anghofio nad ymgyrch gyffredin oedd hon. Er ein bod wedi arfer â chwestiynau am roddion amheus o amgylch y blaid Geidwadol, mae’r hyn yr ydym wedi’i weld yn ystod yr ymgyrch Lafur hon wedi tanseilio cymaint o ffydd. A phan fyddwn yn siarad am yr angen i dalu rhywbeth yn ôl, gallwn olygu mewn 2 ffordd – nid dim ond yr arian parod, mae’n ymddiriedaeth hefyd, ac mae hynny hyd yn oed yn fwy gwerthfawr.”

 

Yn ei ail araith yn y gynhadledd ers dod yn Arweinydd Plaid Cymru, mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth AS ddweud;

“Nid dwy blaid yw Etholiadau Cyffredinol – er gwaetha’r hyn y byddai’r newyddion yn ei drosglwyddo i’r ystafelloedd byw a’r hyn a argraffwyd ym mhapurau’r bore.

 

Yng Nghymru, gallwn wneud pethau’n wahanol.

 

Cadw y Torïaid allan.

 

Rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf.

 

Ac … ar yr un pryd yn dweud y gallwn ddweud wrth Lafur na fyddwn yn gadael iddynt gymryd Cymru yn ganiataol.

 

O Fôn i Fynwy, mae ASau Ceidwadol wedi cefnogi cyfundrefn ddrylliedig sy’n achosi di-ddweud i’r bobl y maent i fod i’w gwasanaethu.

 

Ateb Keir Starmer oedd cyhoeddi’r angen am agwedd hollol newydd at wleidyddiaeth.

 

Ond nid yw cynhadledd, yn dilyn uniongrededd y Ceidwadwyr, yn agwedd newydd at wleidyddiaeth.

 

Mae gweld Rachel Reeves yn cerdded yr un llwybr a Jeremy Hunt yn cynnig rhagor o lymder.

 

Mae diswyddo Gweinidog yr Wrthblaid am sefyll ar linell biced yn isafbwynt newydd i Lafur.

 

Mae brad HS2 Sunak a Starmer ond yn golygu fod Cymru ar ei hol hi.

 

Ac nid yw’r glymblaid Llafur-Torïaidd ar godi cap bonws y bancwyr ond yn mynd i ddangos ar ochr pwy y mae nhw go iawn.

 

Rydym yn sefyll ar wahân i wleidyddiaeth sefydliad y DU.

 

Nid ydym am i’r dyfodol edrych fel y gorffennol.

 

Rydyn ni eisiau i bobl deimlo gobaith am wleidyddiaeth unwaith eto.”

Gan nodi’r hyn y mae’n rhaid i Lywodraeth nesaf y DU ei wneud dros Gymru, mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth AS ei ddweud;

 

“Rhowch y cyllid sy’n eiddo i ni, o goffrau’r Trysorlys y mae arian trethdalwyr Cymru yn cyfrannu ato, fel pob rhan arall o’r DU.

 

Rhowch y grymoedd sydd eu hangen arnom i adeiladu senedd bwerus, nid datganoli tameidiog na all gadw i fyny â gobeithion ein pobl.

 

Rhowch ryddid i ni brofi’r hyn y mae pob un ohonom yn y neuadd hon a miloedd y tu hwnt iddi eisoes yn ei wybod – mai nid dyma’r cystal ag y gall pethau fod i Gymru.

 

A BYDDWN yn ffynnu. GALL Cymru.”

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.