7.3 C
Llanelli
Wednesday, February 4, 2026
Home Education Bydd elusen atal hunanladdiad dynion yn dechrau grŵp cymorth cymheiriaid newydd yng...

Bydd elusen atal hunanladdiad dynion yn dechrau grŵp cymorth cymheiriaid newydd yng Ngogledd Cymru.

0
340
cambriadeeNEW1
cambriadeeNEW1

Eisoes yn croesawu dros 50 o bobl yn ei gyfarfod wythnosol am ddim yn yr Hwb ‘Yellow and Blue’ yn Wrecsam, mae Andy’s Man Club (AMC) wedi ychwanegu Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy at ei restr gynyddol o safleoedd ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’r sefydliad wedi arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda’r coleg. Felly bydd yn cyfarfod yng nghanolfan gynadledda’r coleg ar Ffordd Celstryn, Cei Connah bob dydd Llun rhwng 7pm a 9pm, gan ddechrau ar 22 Ebrill.

Mae Dan Rowe, Arweinydd Ardal Ranbarthol AMC ar gyfer Gorllewin Lloegr a Chymru, yn dweud bydd y bartneriaeth yn eu galluogi i gyrraedd rhagor o ddynion sy’n cael trafferth gyda myrdd o broblemau – stormydd yn effeithio ar eu bywydau – gan gynnwys gorbryder, iselder, colled ac unigrwydd, yn Sir y Fflint a thu hwnt.

Yn hanu o Fynydd Isa, mae’n gobeithio gweld yr elusen yn tyfu hyd yn oed yn gryfach yn y misoedd i ddod, ar ôl ennill Gwobr Dathlu Dewrder S4C ym mis Rhagfyr am helpu i chwalu rhwystrau a chael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl.

Rydyn ni wedi bod yn Wrecsam ers dwy flynedd ac mae’r niferoedd sy’n dod wedi bod yn cynyddu o wythnos i wythnos. Felly mae gallu helpu rhagor o ddynion yn ardal Glannau Dyfrdwy yn wych,” meddai Dan.

Mae gan Andy’s Man Club dros 180 o grwpiau yn genedlaethol, sy’n cefnogi dros 4,500 o ddynion. Ond eto dim ond un man cyfarfod oedd gennym ni yng Ngogledd Cymru hyd yma, felly dyma gam yn y cyfeiriad iawn.

Rydyn ni’n ddiolchgar i Goleg Cambria am adael i ni ddefnyddio eu cyfleusterau, am eu haelioni, ac am gefnogi ein gweledigaeth i gael Andy’s Man Club ym mhob tref a dinas yn y Deyrnas Unedig. Mae’r rhain yn llefydd i feithrin cyfeillgarwch, ac i griwiau o ddynion o wahanol oedran, ac o gefndiroedd gwahanol, ddod at ei gilydd mewn amgylchedd cynnes, croesawgar.

“Rydyn ni eisiau parhau â’r sgwrs, er mwyn i ddynion gael siarad mewn man diogel lle maen nhw’n teimlo’n gyfforddus i rannu eu profiadau, mewn ystafell sy’n rhydd o farn.”

cambria dee NEW

Mae’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn dweud: “Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i gryfhau cysylltiadau â’r gymuned leol; yn enwedig ar brosiectau sy’n cefnogi ein trigolion a’n dysgwyr yn uniongyrchol – y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

Rydyn ni mewn sefyllfa i gefnogi Andy’s Man Club yn eu hymgyrch i gynnig grwpiau cymorth cymheiriaid am ddim ledled y Deyrnas Unedig.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Cambria Yana Williams: “Fel coleg, mae gennym gyfrifoldeb nid yn unig i’n dysgwyr ond i’w teuluoedd, ffrindiau a’n cymunedau yng ngogledd ddwyrain Cymru.

“Rydyn ni’n falch o allu helpu mewn rhyw ffordd fach ac yn gobeithio y bydd unrhyw un sy’n profi problemau iechyd meddwl yn cysylltu ag Andy’s Man Club, yn mynd i gyfarfod ac yn croesawu’r gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud i sicrhau newid cadarnhaol i ddynion ledled y wlad, un sgwrs ar y tro.”

Bob dwy awr mae un dyn yn lladd ei hun yn y Deyrnas Unedig ar gyfartaledd. Dywedir yn aml mai un ffactor o hynny yw nad ydy dynion yn siarad. Dyna pam cafodd Andy’s Man Club ei ddechrau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Andy’s Man Club | #ITSOKAYTOTALK | Andy’s Man Club (andysmanclub.co.uk) a dilynwch grŵp Glannau Dyfrdwy ar Facebook.

I gael y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.