6.3 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home Newyddion Lle Galwad Merched Cymru am Heddwch yn cael ei chefnogi dros y byd

Galwad Merched Cymru am Heddwch yn cael ei chefnogi dros y byd

0
398
Criw Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2024 Sian Lewis Jeremy Miles Peace and Goodwill Message Contributors
Criw Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2024 Sian Lewis Jeremy Miles Peace and Goodwill Message Contributors

Mae miloedd o unigolion, ysgolion a sefydliadau dros y byd wedi dangos cefnogaeth i ‘Gweithred yw Gobaith’, Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2024 pobl ifanc Cymru, ryddhawyd ar ffurf ffilm animeiddiedig

gan Urdd Gobaith Cymru heddiw (dydd Gwener, 17 Mai).

Bu’r sylw ar y cyfryngau cymdeithasol i’r ymgyrch yn cynyddu trwy gydol y dydd, gyda’r Neges yn cyrraedd dros 30 o wledydd hyd yn hyngan gynnwys India, Moldova, Patagonia, UDA, Slofacia a Japan.

Ymhlith cefnogwyr Neges Heddwch 2024 mae enwogion a chyn-aelodau adnabyddus o’r Urdd, gan gynnwys yr actorion Michael Sheen a Matthew Rhys, a ddywedodd fod y Neges yn un “hynod o amserol i ni gyd.”

Ysbrydolwyd ‘Gweithred yw Gobaith’, Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2024 gan Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24 a arwyddwyd gan bron i 400,000 o fenywod ganrif yn ôl, ac mae’n datgan mai “her canrif newydd” yw’r angen i barhau i weithredu dros heddwch, a rhoi diwedd ar erchyllterau, rhyfeloedd a thrais.

Yn gyfrifol am y Neges Heddwch eleni oedd merched sy’n fyfyrwyr ar gyrsiau ESOL (dysgwyr Saesneg fel ail iaith) yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro sydd wedi symud i Gymru a gwneud Cymru yn gartref newydd, ynghyd â rhai o staff, prentisiaid a gwirfoddolwyr benywaidd yr Urdd.

Cist Deiseb Heddwch 1923-24 Peace Petition Chest

Mae geiriau ‘Gweithred yw Gobaith’ bellach ar gael mewn 70 iaith er mwyn cryfhau neges ieuenctid Cymru ledled y byd, a crëwyd ffilm o’r Neges gan yr animeiddwraig Efa Blosse-Mason.

Bu i’r Urdd gynnal digwyddiad arbennig yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru heddiw, ble mae Deiseb Heddwch 1923-24 yn rhan o arddangosfa ‘Hawlio Heddwch’ ar hyn o bryd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg, Jeremy Miles oedd yn bresennol yn y digwyddiad heddiw: “Gyda’r holl erchyllterau ac ansefydlogrwydd sydd yn y byd heddiw, mae’r neges heddwch ac ewyllys da yn bwysicach nag erioed. Rwy’n falch iawn o’r cyfle i gefnogi’r neges ar ran Llywodraeth Cymru, ac o gyfraniad yr Urdd i wneud Cymru’n Genedl Noddfa i ffoaduriaid dros y blynyddoedd diwethaf.

“Drwy gyfieithu’r neges i 70 o ieithoedd eleni, bydd geiriau pwerus pobl ifanc Cymru yn atseinio ymhell, ac yn rhoi gobaith fod gwell byd a heddwch yn bosib.”

Meddai Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Siân Lewis: “Mae’r Urdd am sicrhau bod Cymru a’r Gymraeg yn cael effaith gadarnhaol yn y byd, ac rydym yn ddiolchgar i’r rheiny sydd wedi ein helpu i rannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2024 mor eang â phosib, o aelodau i gyn-aelodau a chefnogwyr ledled y byd. Heddiw, mae lleisiau ein pobl ifanc wedi cael eu clywed.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.