Diffoddwr Tân am Ddringo Everest mewn Cit Diffodd Tân Llawn

0
186

Nid yn unig y mae Rhys Fitzgerald, Diffoddwr Tân Ar Alwad Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn bwriadu cyrraedd copa Mynydd Everest, ond mae hefyd yn anelu at fod y person cyntaf i wneud hynny mewn cit diffodd tân llawn.

Nid ar chwarae bach mae cyrraedd copa Everest – mynydd ucha’r byd – ac nid yw’n her y mae llawer o bobl yn fodlon mentro arni.

Nid yn unig mae Rhys Fitzgerald, Diffoddwr Tân Ar Alwad Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yng Ngorsaf Dân Cydweli, am ymgymryd â’r dasg hynod anodd hon, mae hefyd yn anelu at fod y person cyntaf i wneud hynny mewn cit diffodd tân llawn.

Fel rhan o’i hyfforddiant i ddringo’r 8848m i gopa Everest yn 2025, mae Rhys wedi gosod cyfres o ddigwyddiadau ac amcanion iddo’u cyflawni.  Yn ogystal ag ymweld â’r Ganolfan Uchder yn Llundain i ymgyfarwyddo ag uchderau, bydd yn cymryd rhan yn her 10 y Fan, Tri Chopa Cymru, (Yr Wyddfa, Cadair Idris a Phen y Fan) a Her y Tri Chopa (Yr Wyddfa, Scafell Pike a Ben Nevis – mynydd uchaf Ynysoedd Prydain). Bydd Rhys yn gwisgo cit diffodd tân llawn ar gyfer pob un o’r heriau hyn.

Yn ogystal, mae Rhys yn hunanariannu dringfa arall ar Ama Dablam, mynydd 6,182m o uchder yn Nhalaith Koshi yn Nepal, ym mis Hydref 2024 i baratoi ei hun ar gyfer dringfa olaf ei ymdrechion codi arian.  Mae’n ymgymryd â’r her hon i helpu i hyrwyddo’r manteision y gall treulio amser yn yr awyr agored eu cael ar eich iechyd a’ch lles meddyliol a chorfforol, yn ogystal â chodi arian ac ymwybyddiaeth o dri achos teilwng. Mae Rhys wedi dewis cefnogi’r elusennau canlynol:

  • Elusen y Diffoddwyr Tân – elusen sy’n darparu cymorth gydol oes i ddiffoddwyr tân sy’n gwasanaethu ac sydd wedi ymddeol, ac i’w teuluoedd.
  • Mind – sy’n darparu gwybodaeth, cefnogaeth ac ymgyrchoedd i bobl â phroblemau iechyd meddwl.
  • The Nimsdai Foundation – sy’n gweithio i glirio sbwriel sy’n cael ei adael ar fynyddoedd yn yr Himalaya yn sgil teithiau blaenorol yn ogystal â chefnogi arwyr tawel y mynyddoedd, sef Porthorion Llwybr Base Camp Everest.

Bydd Rhys hefyd yn cyflawni dwy record byd fel rhan o’i anturiaethau trwy fod y person cyntaf i ddringo Ama Dablam ac Everest mewn cit diffodd tân llawn.

Wrth siarad am ei her, meddai Rhys:

“Mae bod yn yr awyr agored wedi fy helpu’n aruthrol dros y blynyddoedd gyda fy iechyd meddwl fy hun ac rwyf am rannu’r profiadau hynny ag eraill a helpu pobl drwy eu heriau eu hunain.”

Rwyf wedi dewis fy elusennau penodol gan eu bod i gyd yn gwneud gwaith gwych wrth ddarparu cefnogaeth i bobl pan fydd ei hangen fwyaf. A minnau wedi bod yn Ddiffoddwr Tân ers sawl blwyddyn, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw siarad â’ch cydweithwyr, eich ffrindiau a’ch teulu.

Rwyf wedi canfod bod dianc i’r awyr iach ac archwilio’r awyr agored yn help aruthrol i mi. Bellach mae fy hobi wedi arwain at wthio fy hun yn gorfforol ac yn feddyliol i ledaenu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.”

Mae Rhys wrthi’n codi arian drwy dudalen GoFundMe, a bydd yr holl roddion yn cael eu rhannu rhwng talu cost yr antur a chael eu cyfrannu i’w ddewis o elusennau.

Gall unrhyw gwmnïau neu sefydliadau sydd â diddordeb mewn noddi’r antur gysylltu â Rhys yn uniongyrchol ar r.fitzgerald@mawwfire.gov.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle