GE24: YMGYRCH LANSIO PLAID CYMRU – “MAE PLEIDLAIS DROS BLAID CYMRU YN ‘HANFODOL’ I GADW’R CEIDWADWYR ALLAN A DAL LLAFUR I GYFRIF”

0
123
By Sinn Féin - https://www.flickr.com/photos/sinnfeinireland/53567554935/, CC BY 2.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=146062205

Mae pleidlais i Blaid Cymru yn “hanfodol” i wadu lle i’r Ceidwadwyr yng Nghymru ac i ddal Llafur I gyfrif mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi dweud.

Wrth siarad cyn rali etholiadol ym Mangor, dywedodd Mr ap Iorwerth fod Plaid Cymru yn mynd â’r frwydr i’r Ceidwadwyr a Llafur ym mhob rhan o Gymru a’i bod mewn “sefyllfa arbennig” i ddadorseddu AS Ceidwadol presennol yn Ynys Môn ac yn y sefyllfa orau i gynrychioli pobl Caerfyrddin.

Plaid Cymru, meddai, yw’r unig blaid sy’n “rhoi buddiannau Cymru o flaen buddiannau pleidiol.”

Dadleuodd arweinydd y Blaid y byddai “Cymru decach, mwy uchelgeisiol” yn cael ei chyflawni dim ond trwy gael lleisiau Plaid Cymru yn gwneud yr achos dros Gymru yn San Steffan.

Meddai Rhun ap Iorwerth;

“Mae’n amlwg bod pobol ledled Cymru wedi cael llond bol ar y llywodraeth Geidwadol drychinebus a dinistriol hon.

“Mae pleidleisio’r Blaid mewn etholaethau fel Ynys Môn yn hanfodol er mwyn cadw’r Torïaid draw o San Steffan ac allan o Gymru. Fel y dangosodd polau piniwn diweddar ac Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai, mae Llinos Medi o Blaid Cymru mewn sefyllfa ffafriol i gipio’r sedd rhag yr AS Torïaidd presennol, gan roi llais lleol ffres i etholwyr yn San Steffan.

“Ar yr un pryd, mae pleidleisio Plaid Cymru yng Nghaerfyrddin a Bangor Aberconwy yn dal Llafur I gyfrif hefyd. Gydag ymgeiswyr fel Ann Davies yng Nghaerfyrddin, Plaid Cymru sydd yn y sefyllfa orau i gynrychioli ein cymunedau yn effeithiol a chynnig dewis amgen cadarnhaol i Lafur a’r Torïaid.

“Mae neges bositif Plaid Cymru o Gymru decach, fwy uchelgeisiol, yn dangos mai ni yw’r unig blaid sy’n rhoi buddiannau’r genedl o flaen buddiannau pleidiol.

“Mewn cyferbyniad llwyr, mae ymgyrch Llafur eisoes wedi diystyru cyllid tecach i Gymru. Mae nhw’n fodlon ein gweld ni yng nghlwm a senedd San Steffan sy’n dal Cymru yn ol.

“Nid yw’r etholiad hwn yn ymwneud yn unig â phwy sydd â’r allweddi i 10 Stryd Downing. Mae hefyd yn ymwneud â phwy sy’n cynrychioli eich stryd, eich cymuned, a buddiannau eich gwlad o ddydd i ddydd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle