Dros degwch, dros uchelgais, dros Gymru.

0
115

Annwyl Friend,

Gyda dim ond tridiau i fynd tan yr etholiad cyffredinol, mae’n fwy amlwg nag erioed y byddai llais Cymru yn gwbl fud yn San Steffan heb garfan gref o Aelodau Seneddol Plaid Cymru.

Rydyn ni’n gwybod ei bod hi ar ben ar y Torïaid a’u dirmyg arferol tuag at Gymru – ond gyda Llafur ar fin croesi trothwy 10 Stryd Downing ddydd Gwener, y perygl gwirioneddol yw i Gymru gael ei chymryd yn ganiataol.

Mae rhagrith Llafur ar HS2 ac ar fwy o bwerau i Gymru wedi bod yn glir i bawb yn ystod yr wythnosau diwethaf – does dim ots gan Keir Starmer ac mae Vaughan Gething yn rhy wan i’w herio.

Wrth bleidleisio ar ddydd Iau, bydd etholwyr yn disgwyl i’w AS godi llais drostyn nhw a’u cymunedau – nid dilyn chwip San Steffan doed a ddel.

Mae’r neges yn glir: i gael AS fydd wastad yn rhoi llais i Gymru yn San Steffan, wastad yn hyrwyddo tegwch, ac wastad yn sefyll yn gadarn yn erbyn mwy o’r toriadau sydd wedi llethu ein gwasanaethau cyhoeddus yn barod, pleidleisiwch dros Blaid Cymru ddydd Iau.

Dyma sut gallwch chi helpu:

Rhowch hwb i ymgyrch ddigidol Plaid Cymru drwy ddilyn ein cyfrifon cymdeithasol, a hoffi a rhannu ein cynwys:

Facebook
X
Instagram
TikTok

Dros Gymru,

Rhun

Rhun ap Iorwerth
Arweinydd Plaid Cymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle