Diolch

0
124

Annwyl Friend

43 diwrnod yn ôl, safodd Rishi Sunak yn y glaw i alw’r etholiad.

Ers hynny mae byddin o aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru wedi rhoi o’u hamser, eu hegni, a’u harian – a’u pleidlais – i gefnogi ein ymgeiswyr penigamp ar hyd a lled y wlad.

Does gen i ond diolch o galon i bob un ohonoch. Mae wir wedi bod yn bleser ymgyrchu ar y cyd â chi ym mhob cwr o Gymru.

Beth bynnag a ddaw, dros y 6 wythnos diwethaf, rydyn ni wedi gosod seiliau cadarn iawn i’r Blaid wrth i ni edrych ymlaen at etholiadau Senedd Cymru yn 2026.

Diolch eto i chi.

Dros Gymru,

Rhun

Rhun ap Iorwerth
Arweinydd Plaid Cymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle