11.1 C
Llanelli
Wednesday, March 4, 2026
Home Newyddion Lle ‘Croeso’ i bawb! – ‘Croeso!’ cynnes Cymreig

‘Croeso’ i bawb! – ‘Croeso!’ cynnes Cymreig

0
422
Rhosili
Rhosili

Mae Croeso Cymru wedi datgan mai ‘Croeso!’ fydd thema’r flwyddyn ar gyfer 2025.

Nod y Flwyddyn Groeso a gyhoeddwyd yn rhan o Wythnos Twristiaeth Cymru, yw dathlu’r ffyrdd gwahanol ac amrywiol y gall pobl o bob rhan o’r DU a’r byd deimlo eu bod yn cael croeso pan fyddant yn dod ar wyliau i Gymru.

Mae’r croeso cyfeillgar y mae ymwelwyr yn ei gael yng Nghymru yn rheswm allweddol pam bod llawer yn dewis dychwelyd dro ar ôl tro, sy’n dyst i ddiwylliant Cymru a’i phobl, a’r hyn sydd wedi dylanwadu ar Croeso Cymru i ddewis thema ‘Croeso’ ar gyfer 2025.

Karen on off-road bike

O feiciau symudedd ar gyfer archwilio mynyddoedd, i gyfleusterau newid sydd wedi’u haddasu’n arbennig ar draethau eiconig, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn helpu i sicrhau bod harddwch trawiadol Cymru yn agored ac yn estyn croeso i fwy o bobl nag erioed.

Mae cronfa’r Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £5 miliwn mewn 29 prosiect ar gyfer 2023 i 2025 i gefnogi awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol i ddarparu gwelliannau sy’n canolbwyntio ar dwristiaeth a fydd o fudd i ymwelwyr a chymunedau lleol.

Ddoe [Dydd Iau 18 Gorffennaf] agorwyd cyfleuster arbenigol newydd Changing Places ym Mae Rhosili, a fydd yn gwneud y lleoliad syfrdanol yn fwy hygyrch. Fe’i ariannwyd gan gronfa’r Pethau Pwysig.

Mae Surfability, sefydliad syrffio sy’n darparu gwersi a phrofiadau syrffio i bobl ag anghenion ychwanegol wedi elwa o’r blaen ar gyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi anghenion syrffwyr – gan ganiatáu i bawb fanteisio i’r eithaf ar syrffio wrth gael profiad diogel a phleserus.

Rhosili

Dywedodd Ben Clifford, Cyfarwyddwr a Phrif Hyfforddwr Surfability:

“Yn fuan ar ôl lansio Surfability ym Mae Caswell, sylwon ni ar broblemau o ran cyfleusterau newid a thoiledau addas. Hyd yn oed o wybod na allent newid na mynd i’r toiled gydag urddas, roedd ein syrffwyr yn dal i fod eisiau dod.

“Mae nifer bach o bobl sydd â phroblemau symudedd wedi profi diffyg preifatrwydd wrth geisio gwisgo siwt wlyb ac wedi gorfod mynd ar y llawr mewn toiled neu yn y maes parcio i wneud hynny – roedd yn amlwg bod angen cyfleuster Changing Places priodol.

“Daeth menyw leol anhygoel â’i mab i syrffio gyda ni a dechrau ar yr ymgyrch i osod cyfleuster Changing Places yn Caswell. Mewn gwirionedd, dim ond oherwydd ei dyfalbarhad hi y mae’r cyfleuster yn bodoli yn Caswell.

“Ar ôl i’r newyddion ledaenu bod gan Caswell gyfleuster Changing Places a bod cadeiriau olwyn ar gyfer y traeth ar gael, fe ddechreuon ni gael pobl yn ymweld o bob rhan o’r DU!

“Mae angen dewrder i syrffio a gall fod yn brofiad newydd mawr. Mae gwybod bod eich anghenion yn mynd i gael eu diwallu a bod newid a mynd i’r toiled yn mynd i fod mor hawdd â phosibl yn golygu y gall ein myfyrwyr ganolbwyntio ar y gweithgaredd yn unig.”

Dywedodd y Gweinidog Twristiaeth, Jack Sargeant:

“Bydd Blwyddyn Groeso 2025 yn cryfhau’r croeso Cymreig unigryw y gall unrhyw un ei ddisgwyl wrth ymweld â’n gwlad brydferth, waeth beth maen nhw wedi dod yma i’w fwynhau.

“Rwyf wrth fy modd o gael fy mhenodi i’m rôl newydd, yn enwedig pa fo’r tymor twristiaeth ar ei anterth ac rwy’n edrych ymlaen at weld a chlywed y cynlluniau ar gyfer eleni a 2025.

“Mae’r economi ymwelwyr yn hanfodol i bob rhan o’n cenedl – gan gyflwyno £3.8biliwn y flwyddyn a chyflogi dros 150,000 o bobl ar draws Cymru.”

“Mae mor bwysig bod profiad pob ymwelydd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu croeso i bawb, er enghraifft ym mhenrhyn Gŵyr, rydym yn cael gwared ar rwystrau a allai atal pawb rhag mwynhau eu hamser i’r eithaf. Mae cronfa’r Pethau Pwysig wedi trawsnewid hyn.

“Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i hyrwyddo a hwyluso ein hystod o brofiadau unigryw, ac sydd heb un amheuaeth yn rhai Cymreig, i mwy a mwy o ymwelwyr ar draws Cymru, a’r Croeso y gall pawb ei ddisgwyl.”

Yn 2023, cawsom dros 8.5 miliwn o ymwelwyr o wledydd Prydain, ynghyd ag 892,000 o ymwelwyr rhyngwladol.

Mae Bluestone, man gwyliau yn Sir Benfro, yn edrych ymlaen at hyrwyddo’r Flwyddyn Groeso. Gyda lle i tua 1,400 ar unrhyw un adeg, maent eisoes yn gyfarwydd iawn â darparu croeso Cymreig unigryw.

Dywedodd Rebecca Rigby, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bluestone Resort:

“Mae’r Flwyddyn Groeso yn atgof hyfryd bod Cymru’n wlad i bawb. Yma yn Bluestone, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod yr holl westeion yn teimlo’r croeso Cymreig cynnes hwnnw ac yn darganfod eu ‘hwyl’ drwy eu hanturiaethau unigryw eu hunain. Rydym yn credu y dylai pawb gael blas ar hud Cymru.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.