Mae Samariaid Cymru wedi cyhoeddi ymgyrch newydd i atal hunanladdiad ymhlith dynion gyda neges ganolog na fydd dynion wedi’i chlywed o’r blaen – #AgorIFynyAGwrando. Mae’r ymgyrch yn lansio Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd heddiw.
Dywedodd Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol Samariaid Cymru:
“Mae ein hymgyrch newydd #AgorIFynyAGwrando yn herio’r ystrydeb nad ydyn ni fel dynion yn gwybod sut i siarad am ein teimladau. Rydyn ni’n gwybod bod dynion yn siarad, ond efallai bod angen i ni gynyddu dealltwriaeth o ba mor fuddiol y gall fod i ofyn am help a siarad am ein problemau’n gynnar, cyn i ni gyrraedd pwynt argyfwng. Yn bwysicaf oll, nod #AgorIFynyAGwrando yw rhoi sicrwydd i ddynion eu bod yn haeddu bod â gwrandäwr gwych pan fyddan nhw’n barod i rannu – eu bod nhw’n haeddu cael eu clywed yn iawn. Mae ein gwirfoddolwyr yma i’w cefnogi bob awr o’r dydd a’r nos, yn Gymraeg neu’n Saesneg.”
Mae’r ymgyrch yn annog dynion ledled Cymru i ofyn am gymorth gan y gwrandäwr gwych y maen nhw’n ei haeddu, pryd bynnag y bydd ei angen. Drwy gydnabod pwysigrwydd y gwrandäwr, ochr yn ochr â phwysigrwydd gofyn am gymorth, mae’r ymgyrch yn herio’r myth nad yw dynion yn siarad am eu teimladau, ystrydeb nad yw’n helpu dynion sy’n wynebu poen emosiynol, ym marn yr elusen, gan fod llawer ohonyn nhw yn rhannu eu teimladau ond dydyn nhw ddim wir yn cael eu clywed.
Mae #AgorIFynyAGwrando yn canolbwyntio ar bwysigrwydd hanfodol cael rhywun i wrando arnoch ac mae’n atgoffa dynion bod y Samariaid yno bob amser i wrando, beth bynnag yw’ch cefndir, yn Gymraeg neu’n Saesneg. Mae fideo’r ymgyrch wedi ei ryddhau heddiw a bydd yn ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol, S4C ac ITVX.

Mae’r ymgyrch hefyd yn gosod her gadarnhaol ac yn rhoi arweiniad i unrhyw un sydd eisiau bod yn well gwrandäwr a chefnogi rhywun yn eu bywyd a allai fod yn ei chael hi’n anodd. Mae’r awgrymiadau gwrando wedi’u cynllunio fel eu bod yn hawdd i’w dysgu ac yn hygyrch i bawb; mae’r elusen yn dweud nad oes angen i chi fod yn arbenigwr i gefnogi rhywun sy’n cael trafferth neu sy’n wynebu meddyliau hunanladdol. Maen nhw’n dweud mai’r peth pwysicaf yw bod y person maen nhw’n ei gefnogi yn gwybod bod rhywun yn poeni amdanyn nhw ac nad ydyn nhw’n teimlo’n unig. Yn bwysicaf oll, mae Samariaid Cymru eisiau i bawb ledled Cymru wybod nad yw siarad am hunanladdiad yn cynyddu’r risg, mae’n ei leihau.
Mae lansio’r ymgyrch yn cyd-fynd â datganiad ystadegol diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar gyfer hunanladdiadau yng Nghymru a Lloegr, a amlygodd fod y cyfraddau ar eu huchaf ers dros 20 mlynedd. Dangosodd hefyd fod dynion yn parhau i gyfrif am dri chwarter y gyfradd gyffredinol yng Nghymru a bod cysylltiad cryf rhwng hunanladdiad a thlodi. Ychwanegodd Neil Ingham:
“Mae’r ffigyrau diweddaraf hyn i Gymru yn destun pryder mawr. Mae hunanladdiad yng Nghymru yn fater iechyd cyhoeddus pwysig, ond yn hanfodol, mae hefyd yn fater sy’n ymwneud ag anghydraddoldeb. Mae cyfraddau dynion yn parhau i ddominyddu’r data ac mae’n amlwg ein bod ni naill ai’n gweld cynnydd posibl mewn cyfraddau hunanladdiad yng Nghymru neu ar y gorau, rydyn ni’n gweld diffyg gwella parhaus mewn cyfraddau, lle nad yw nifer gyfartalog yr hunanladdiadau byth yn gostwng. Mae hyn yn annerbyniol.
“Rydyn ni’n benderfynol o herio’r diffyg cynnydd hwn a herio unrhyw barodrwydd i anwybyddu’r argyfwng dinistriol hwn. Nid yw hunanladdiad byth yn anorfod; mae modd ei atal, ond mae’n rhaid i ni fod yn barod i wneud pethau’n wahanol yng Nghymru.”
Mae Samariaid Cymru yn obeithiol y bydd eu hawgrymiadau ar gyfer gwrando yn paratoi llawer o bobl eraill i ddod yn well gwrandawyr eu hunain a bod yno i rywun sydd eu hangen. Ychwanegodd Neil Ingham –
“Rydyn ni wir yn credu bod gan Gymru’r pŵer i ddod yn genedl o wrandawyr; Cymru sy’n gwrando sy’n trin y rhai mewn trallod gyda thosturi a charedigrwydd.”
Mae’r ymgyrch #AgorIFynyAGwrando yn cydnabod y gallai rhai dynion fod wedi ceisio rhannu eu teimladau neu’u trafferthion o’r blaen, ond eu bod wedi cael eu rhwystro, neu fod pethau wedi mynd yn drech na nhw oherwydd nad oedden nhw’n teimlo bod unrhyw un wir yn gwrando arnyn nhw. I unrhyw un sy’n teimlo fel hyn, neu nad oes ganddyn nhw neb i droi ato, maen nhw eisiau i ddynion ledled Cymru wybod bod eu llinell gymorth ar gael 24/7 ac y byddan nhw’n eu cefnogi beth bynnag yw’r rheswm.
Mae Samariaid Cymru yn gwahodd pawb i gymryd rhan yn yr ymgyrch #AgorIFynyAGwrando, lledaenu’r gair, a bod yn rhan o fudiad sy’n ceisio newid ac achub bywydau a dod â gobaith i’r rhai sydd ei angen fwyaf yng Nghymru.
I wylio’r ymgyrch #AgorIFynyAGwrando a dysgu mwy am gael cefnogaeth neu ddod yn well gwrandäwr, ewch i:
Awgrymiadau Gwrando
Awgrymiadau gwych ar gyfer bod yn well gwrandäwr
Dangoswch eich bod yn poeni:
Rhowch eich holl sylw i’r person arall, gwnewch gyswllt llygad, a rhowch eich ffôn heibio.
Byddwch yn amyneddgar:
Gall gymryd amser a sawl tro cyn bod rhywun yn barod i rannu
Defnyddiwch gwestiynau agored:
Defnyddiwch gwestiynau agored sydd angen mwy nag ie neu na fel ateb.
Ailadroddwch yr hyn a ddywedwyd:
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi deall, ond peidiwch â thorri ar draws neu gynnig datrysiad.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |













