16.2 C
Llanelli
Thursday, September 10, 2026
Home Local News Ceredigion News ARFOR – Llwyddo’n Lleol 2050 Llwyddiant penwythnos ‘Arloesi mewn Amaeth’

ARFOR – Llwyddo’n Lleol 2050 Llwyddiant penwythnos ‘Arloesi mewn Amaeth’

0
2555
Llun 2
Llun 2

Llwyddo’n Lleol yn cynnig profiad ym myd y cyfryngau i unigolion ifanc Ceredigion

Yn ystod grwpiau trafod Llwyddo’n Lleol gyda phobl ifanc yng Ngheredigion, fe ddaeth i’r amlwg bod yna ddiffyg cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ym myd y cyfryngau yng nghefn gwlad ARFOR.

Er bod llawer o ddiddordeb yn lleol, a nifer helaeth yn heidio i brifysgolion dinesig i astudio newyddiaduraeth a’r cyfryngau, soniodd sawl un nad oedd yna ryw lawer o gyfleoedd am brofiadau ymarferol yn y maes yn agos at adref.

Penderfynodd Alaw Rees, Swyddog Gweithgareddau Ceredigion gyda phrosiect Llwyddo’n Lleol, i fynd i’r afael â’r her a threfnu penwythnos ‘Arloesi mewn Amaeth’. Dyma benwythnos oedd yn cynnig deuddydd llawn profiadau ym myd y cyfryngau, o sgriptio, ffilmio, cyflwyno a golygu cynnwys, a’r cyfan yn canolbwyntio ar ddarlledu o fyd amaeth. Dewiswyd naw unigolyn brwdfrydig i fod yn rhan o’r penwythnos gyda’r gobaith o danio’u huchelgais a’u hangerdd i ddilyn gyrfa broffesiynol yn y sector yn y dyfodol.

Dywedodd Alaw: “Bwriad y penwythnos hwn oedd cynnig cyfle unigryw i unigolion yr ardal i brofi hyfforddiant sydd ddim, fel rheol, ar gael yn lleol. Roeddwn i’n awyddus i ddangos bod modd i bobl ifanc weithio ym myd amaeth mewn ffyrdd sydd efallai yn llai amlwg a thraddodiadol, a rhoi cipolwg iddyn nhw ar un o’r diwydiannau eraill y gallan nhw ei gyfuno ag amaeth.”

Ychwanegodd Alaw: “Roedd y penwythnos yn gyfle iddyn nhw gwrdd â phobl newydd, creu cysylltiadau a all fod o fudd iddyn nhw yn y dyfodol, datblygu sgiliau newydd, a chael eu hysbrydoli.

“Roedd hi’n wych gweld y criw yn dod i ddeall bod yr holl gyfleoedd hyn yn eu milltir sgwâr – hynny yw, bod modd llwyddo i gael gyrfa lewyrchus o fewn amaeth a’r cyfryngau a dal i fyw yng nghefn gwlad Cymru. Roedd hyn yn rhywbeth a oedd yn amlwg yn bwysig iawn i’r criw cyfan.”

Llun o gyfranogwyr y penwythnos gyda Meinir Howells, hwylusydd y penwythnos

Roedd cael Meinir Howells, enillydd gwobr Ffermwraig y Flwyddyn yng Nghymru, fel hwylusydd i’r penwythnos yn ddewis amlwg. Mae’n unigolyn a oedd yn gallu rhoi ysbrydoliaeth a chyngor i’r criw ifanc, yn enwedig i’r rhai oedd yn dyheu am ddilyn yn ei hôl troed hi o gyflwyno ym myd amaeth.

Dywedodd Meinir: “Roedd hi’n braf cael y cyfle i feithrin talentau newydd ac addysgu pobl sydd ag angerdd a diddordeb mewn bod yn rhan o’r cyfryngau neu sydd am yrfa yn ymwneud ag amaeth a bwyd y tu hwnt i glos y fferm.”

Cynhaliwyd y penwythnos ar fferm Meinir Howells, Shadog – ac am leoliad godidog i gynnal sefyllfaoedd realistig a sesiynau ymarferol ar fferm weithredol, lwyddiannus! Cafwyd siaradwyr gwadd adnabyddus o’r sector yn ymweld â’r fferm ar y diwrnod olaf i gynorthwyo’r unigolion a chyfrannu at raglen broffesiynol yn sôn am yr heriau sy’n  wynebu’r sector amaeth. Ffrwyth llafur y penwythnos fydd ffilm fer wedi’i ffilmio, ei chyfarwyddo a’i sgriptio o’r dechrau i’r diwedd gan yr unigolion ifanc!

Bydd y cofnod hwn o’r hyn a gyflawnwyd dros y deuddydd yn cael ei rannu gyda’r unigolion. Y gobaith yw y bydd yr adnodd yn eu galluogi nhw i ragori mewn cyfweliadau a’u caniatáu i wneud ceisiadau hyderus am gyfleoedd llawrydd yn y dyfodol.

Dywedodd Gwenno Roberts, un o’r rhai a gymerodd ran sy’n wreiddiol o Sir Gâr ond sydd bellach yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ei bod hi wedi mwynhau’r profiad: “Roedd cael profiad go iawn o ffilmio, cyflwyno a chyfweld yn hynod fuddiol, a dwi’n bwriadu cwblhau mwy o brofiad gwaith a chyrsiau tebyg yn y maes drwy ddefnyddio’r cysylltiadau dwi wedi’u ffurfio yn sgil y penwythnos hwn.”

Ychwanegodd Awen Davies, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Aberaeron, ei bod hi wedi cofrestru ar gyfer y cwrs oherwydd bod yr amser wedi dod iddi ddewis pynciau a’i bod hi’n gobeithio y byddai’r penwythnos yn help iddi benderfynu pa drywydd i’w ddilyn. “Fe wnes i fwynhau’r hyfforddiant sgriptio ac mae’r penwythnos wedi dangos i mi sut fyddai modd i mi gyfuno dau beth sy’n agos at fy nghalon, sef cyfathrebu yn y Gymraeg ac amaeth.”

Wrth glou, ychwanegodd Alaw: “Roedd hi’n braf gweld yr unigolion ifanc yn mwynhau dysgu. Diolch yn fawr iddyn nhw am eu brwdfrydedd a dwi’n mawr obeithio bod y penwythnos wedi bod yn agoriad llygad iddyn nhw weld yr hyn sy’n bosib ar ei stepen drws.”

Byddwch yn barod, Geredigion … mae’r cyflwynwyr teledu nesaf ar eu ffordd!

I ddysgu rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael drwy brosiect Llwyddo’n Lleol, ewch i: llwyddonlleol2050.cymru


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.