10.2 C
Llanelli
Wednesday, February 25, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Rhoddion elusennol yn ariannu sganiwr pledren gwerth dros £10,000 ar gyfer Ysbyty...

Rhoddion elusennol yn ariannu sganiwr pledren gwerth dros £10,000 ar gyfer Ysbyty Tywysog Philip

0
1090
Bladder scanner
Bladder scanner

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi prynu sganiwr pledren gwerth dros £10,000 ar gyfer Ward 3 yn Ysbyty Tywysog Philip.

 

Mae Ward 3 yn ward feddygol gyffredinol sy’n arbenigo mewn gofal henoed ac eiddilwch. Mae’n cefnogi cleifion â diagnosis fel dementia a chlefyd Parkinson a’r rhai sy’n byw gydag eiddilwch.

Bydd y sganiwr pledren yn helpu’r gwasanaeth i ddarparu asesiad a gofal amserol ac effeithlon i gleifion, gan gefnogi eu hadsefydliad.

Dywedodd Cerys Hopcroft, Prif Nyrs Iau: “Mae Ward 3 yn lansio uned eiddilwch newydd yn fuan. Bydd y cyfarpar newydd yn ein galluogi i sganio cleifion pan gânt eu derbyn i’r uned er mwyn nodi unrhyw broblemau yn brydlon.

“Bydd y sganiwr hefyd yn sicrhau y bydd yr uned newydd yn rhedeg yn effeithlon ac yn llyfn. Mae’n golygu y gallwn asesu, gwneud diagnosis a thrin cleifion â phroblemau pledren ar yr un diwrnod. Bydd yn sicrhau nad oes unrhyw oedi diangen i ofal cleifion, ac y gall cleifion gael eu rhyddhau yn gynt o bosibl.

“Rydym mor ddiolchgar ein bod wedi gallu cael y sganiwr bledren ar gyfer Ward 3 ac yn edrych ymlaen at weld sut y bydd yn ein cefnogi bob dydd gyda gofal cleifion.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.