11.5 C
Llanelli
Friday, August 7, 2026
Home Newyddion Lle Cronfa newydd i dyfu gweithlu coedwigaeth Cymru

Cronfa newydd i dyfu gweithlu coedwigaeth Cymru

0
475
Lampeter Tree Services 1 scaled
Lampeter Tree Services 1 scaled

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £280,000 mewn cronfa sgiliau a hyfforddiant newydd sy’n gysylltiedig â choedwigaeth, gyda’r nod o dyfu’r gweithlu a darparu gwreiddiau cryf i’r diwydiant flodeuo.

Mae’r gronfa Sgiliau Coedwigaeth a Phren, sy’n agor heddiw, yn rhan o ymdrechion Cymru i ddiogelu’r gweithlu yn y dyfodol a darparu llwybr at yrfa mewn coedwigaeth – diwydiant y mae ei weithlu sy’n heneiddio wedi arwain at bryderon y byddwn yn gweld prinder sgiliau yn y DU yn y blynyddoedd nesaf.

Mae’r gronfa’n rhan o Raglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru a bydd yn cefnogi busnesau i fynd i’r afael â bylchau sgiliau yn eu gweithlu drwy ddarparu cymhorthdal ar gyfer lleoedd ar gyrsiau achrededig yn y gadwyn gyflenwi coedwigaeth a phren, gyda hyd at £20,000 ar gael fesul sefydliad.

Mewn astudiaeth yng Nghymru a Lloegr o fusnesau coedwigaeth yn 2021, rhestrodd yr ymatebwyr ddiffyg sgiliau fel y prif reswm dros swyddi gwag heb eu llenwi

Gyda’r angen am fwy o weithwyr medrus i gyrraedd y targedau ar gyfer creu coetiroedd ac i ehangu faint o bren o safon sy’n cael ei gynhyrchu i fodloni’r galw cynyddol am gartrefi cymdeithasol ffrâm bren carbon isel, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu’n gyflym i helpu i fynd i’r afael â’r mater.

Mae un cwmni ffyniannus yn Llambed sy’n mynd yn groes i’r duedd yn awyddus i wneud cais o dan y cynllun newydd, ar ôl manteisio ar fentrau cyllido sgiliau coedwigaeth blaenorol Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ei dîm tyfu yn gwbl gymwysedig.

Mae Lampeter Tree Services, a sefydlwyd gan Islwyn Williams a’i fab Meirion yn 1993, yn darparu gwasanaethau coedwigaeth ar gyfer y Grid Cenedlaethol, cynghorau, Cyfoeth Naturiol Cymru ac ystadau preifat.

Meirion a’i frawd Emyr sy’n rhedeg y busnes erbyn hyn. Mae cael staff cymwysedig i lefelau safon y diwydiant yn ofyniad cyfreithiol i wneud cais am lawer o’r contractau sy’n rhan o waith beunyddiol y cwmni a hyd yma mae ei weithlu wedi ymgymryd â 400 o gyrsiau hyfforddi gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru.

Un o’r aelodau staff sydd wedi elwa ar y cyrsiau hyn yw Tomos Williams, mab Meirion. Dychwelodd Tomos i’r busnes teuluol fel tirmon ar ôl graddio o Brifysgol Bangor. Erbyn hyn, mae’n dyfwr coed cymwysedig, ac yn arwain tîm ei hun.

O ran gwerth y cymorth a gafodd i ddysgu sgiliau, dywedodd Tomos:

Heb y cyllid fyddwn i ddim wedi gallu ennill cymaint o sgiliau mewn cyfnod mor fyr, ac ni fyddem wedi gallu hyfforddi cymaint o’n staff. Rydym wedi llwyddo i sicrhau bod pawb wedi cael yr hyfforddiant angenrheidiol. Mae staff mwy cymwysedig yn golygu y gallwn ymgymryd â chontractau mwy cymhleth ac rydym yn fwy effeithlon wrth gyflawni ein gwaith.

“Rwyf wrth fy modd yn gweithio yn yr awyr agored. Yn fy ngwaith o ddydd i ddydd rydw i mewn mannau y mae pobl ond yn ymweld â nhw fel arfer ar y penwythnos – ystadau mawr, parciau cenedlaethol. Rydw i wedi cael cyfle i weithio ar goed hynafol. Mae’n waith arbennig.”

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant:

“Coedwigwyr, tyfwyr coed a’r rhai sy’n prosesu pren ac yn gweithio ag ef yw’r swyddi gwyrdd gwreiddiol. Ond mae angen mwy ohonynt arnom. Rydym yn disgwyl i’r galw byd-eang am bren gynyddu pedair gwaith erbyn 2050. Mae’n hanfodol ein bod yn ehangu ein sector coedwigaeth medrus i fodloni’r galw hwnnw ac i gyrraedd targedau sero net.

“Bydd y gronfa hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau i gynyddu’r defnydd o bren yn y byd adeiladu sydd, yn wahanol i goedwigaeth, yn sector cymharol newydd lle nad yw sgiliau ffurfiol a hyfforddiant wedi bod ar gael o’r blaen.” 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.