Diwrnod golff elusennol yn codi dros £600 i GIG Cymru i Gyn-filwyr

0
156
Pictured above: Diane Henry-Thomas, Fundraising Support Officer, with Andrew Homfray, Interim Service Delivery Manager for Integrated Psychological Therapies Service.

Cynhaliwyd diwrnod golff elusennol yng Nghlwb Golff Caerfyrddin ar 4 Hydref 2024 a chodwyd £615 ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr. 

Bu Andrew Homfray, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaeth Therapïau Seicolegol Integredig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn helpu i drefnu’r digwyddiad. Dywedodd: “Rwy’n gweithio o fewn y Gwasanaeth Therapïau Seicolegol ac mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn rhan o’r gwasanaeth hwnnw. Dyma ail flwyddyn y digwyddiad hwn, mae wedi mynd o nerth i nerth o ran nifer y golffwyr sy’n mynychu a’r swm o arian a godwyd. 

“Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn wasanaeth arbenigol â blaenoriaeth i unigolion sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain ar unrhyw adeg yn eu bywydau ac sy’n profi anawsterau iechyd meddwl sy’n ymwneud yn benodol â’u gwasanaeth milwrol. 

Veterans charity golf day

“Roedd yn bleser cael trefnu, cawsom gefnogaeth wych gan Glwb Golff Caerfyrddin. Bydd yr arian a godir yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ffyrdd creadigol o estyn allan at gyn-filwyr i gefnogi mynediad at therapïau seicolegol.

“Diolch i Glwb Golff Caerfyrddin am gynnal y digwyddiad, ynghyd â Louise Loughlin a Julie Graham o’r Gwasanaeth Cyn-filwyr am gefnogi’r digwyddiad drwy gysylltu â siopau a chwmnïau lleol a chael anrhegion gwych ar gyfer y raffl. Hefyd, diolch i fy ngwraig a fy merch, Nia Homfray a Bethan Homfray, a fu’n helpu gyda’r holl waith gweinyddol ar gyfer y diwrnod.”

Dywedodd Diane Henry-Thomas, Swyddog Cymorth Codi Arian; “Diolch i Andrew a phawb a gefnogodd y diwrnod golff gwych. Fe wnaethon ni fwynhau mynychu’r digwyddiad yn fawr.

Veterans charity golf day

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here