6.1 C
Llanelli
Wednesday, February 4, 2026
Home Business MAE CANNOEDD o ddysgwyr a staff yng Ngholeg Cambria wedi cymryd rhan...

MAE CANNOEDD o ddysgwyr a staff yng Ngholeg Cambria wedi cymryd rhan mewn dathliad o fusnes ac arloesedd.

0
622
SerenHughes
SerenHughes

Roedd y coleg wedi cynnal digwyddiadau a gweithgareddau ar ei safleoedd yn Llaneurgain, Wrecsam, a Glannau Dyfrdwy i gydnabod Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang.

Roedd Cambria wedi trefnu gweithdai a sesiynau rhyngweithiol gydag arweinwyr diwydiant, mentoriaid Syniadau Mawr Cymru a pherchnogion busnes adnabyddus. Roedd y rhain yn cynnwys Prif Swyddog Gweithredol Tanya Whitebits, Shoned Owen, yr artist Liz Williams a Beatriz Albo sydd wedi sefydlu cwmni sawsiau Sbaenaidd, Sabor de Amor.

Dywedodd y Cydlynydd Menter ac Entrepreneuriaeth Judith Alexander fod y rhaglen yn darparu cyfleoedd i ddatblygu a chymhwyso sgiliau fel llythrennedd ariannol, creadigrwydd, meddylfryd rhagweithiol, arloesi, datrys problemau, rheoli amser a gwydnwch.

Shoned Owen

“Mae Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang (GEW) yn ymgorffori llawer o’r sgiliau a’r profiadau rydyn ni’n eu meithrin yn ein myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn,” meddai Judith.

“Ein nod ydy ymgysylltu â chymaint o ddysgwyr â phosibl, naill ai ar leoliadau gwaith ac ymweliadau â rhai o’r cwmnïau mwyaf blaengar yn yr ardal, neu drwy ddod a busnesau i mewn i rannu cyngor a chynnig arweiniad, ac rydyn ni mor ddiolchgar iddyn nhw am hynny.

“Cafodd ein hymdrechion i godi ymwybyddiaeth mentergarwch ac agor cyfleoedd newydd eu cryfhau gan y digwyddiadau hyn, ac rydw i’n ddiolchgar i bawb a ymunodd â ni am eu cyfraniad.”

Anne Williams and Alfie Wintin BTEC

Cafodd nifer o ddigwyddiadau eu cynnal. Roedd y rhain yn cynnwys cyfres o weithdai Financial Foundations gan NatWest, y ‘siop cyfnewid’ Money Matters flynyddol – siop cyfnewid dillad sy’n annog unigolion i gael gwared ar ddillad nad ydyn nhw eu hangen i greu incwm ychwanegol – a siop wib gyda myfyriwr Celf a Dylunio Lefel 3, Seren Hughes.

Roedd Seren yn gwerthu gemwaith wedi’i gwneud â llaw ac anifeiliaid wedi’u crosio, a oedd yn boblogaidd iawn gyda chwsmeriaid.

Dywedodd Seren: “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i werthu fy nghynnyrch yn uniongyrchol i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr.

“Rydw i wedi cyfarfod â llawer o bobl ac wedi cael adborth gwerthfawr am fy nghynnyrch a phrisiau. Bydd hyn yn fy helpu i ddatblygu fy musnes bach.”

Ychwanegodd: “Mae wedi bod yn brofiad gwych sydd wedi fy helpu i feithrin hyder a sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid. Byddwn ni’n argymell yn gryf fod myfyrwyr eraill yn manteisio ar y cyfleoedd masnachu prawf sy’n cael eu cynnig gan y coleg gyda chefnogaeth Judith a’r tîm Menter.”

Beatriz Albo

Dywedodd Judith fod dysgwyr Lefel 3 Menter ac Entrepreneuriaeth erbyn hyn yn paratoi ar gyfer

Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar gyfer Menter, gan gynnwys Alfie Wintin, sy’n datblygu prototeipiau ar gyfer hwdis a chrysau-t wedi’u printio gyda chefnogaeth adran Celf a Dylunio’r coleg.

“Mae gennym ni gymaint o fyfyrwyr dygn, creadigol ac arloesol yma yng ngholeg Cambria,” ychwanegodd.

“Roedd GEW yn gyfle iddyn nhw arddangos eu syniadau, yn llwyfan i ddangos eu cariad at fusnes ac entrepreneuriaeth – roedd yn llwyddiant enfawr.”

I gael rhagor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk a dilynwch Goleg Cambria ar y cyfryngau cymdeithasol.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.