Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi lansio ei drydydd arolwg blynyddol o’r gweithlu gofal cymdeithasol, Dweud Eich Dweud!
Mae’r arolwg yn rhoi cyfle unigryw i bawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru i ateb cwestiynau am bethau fel eu hiechyd a’u llesiant, cyflog ac amodau gwaith, a’r hyn y maent yn ei hoffi am weithio yn y sector.
Nid oes angen paratoi ar gyfer yr arolwg Dweud Eich Dweud a bydd yn cymryd tua 15 munud i’w gwblhau.
Mae’r ymatebion yn rhoi mewnwelediad i’r sector gofal cymdeithasol ac yn helpu i lywio’r cymorth sy’n cael ei gynnig gan Ofal Cymdeithasol Cymru a’i bartneriaid. Maent hefyd yn amlygu materion pwysig i lunwyr polisi yn Llywodraeth Cymru.
Bydd yr arolwg ar agor tan 7 Mawrth. Cwblhewch yr arolwg ar lein nawr.
Cyhoeddwyd canlyniadau arolwg 2024 ym mis Hydref 2024 a bydd canlyniadau arolwg 2025 yn cael eu rhannu yn ddiweddarach eleni.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi comisiynu Prifysgol Newydd Swydd Buckingham, Prifysgol Bath Spa a Chymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW) i helpu i wneud y gwaith hwn, ar ôl gweithio gyda’r un grŵp o bartneriaid i gyflawni arolwg y llynedd.
Bydd pawb sy’n cwblhau’r arolwg yn cael cyfle i gymryd rhan mewn raffl i ennill taleb siopa gwerth £20.
Dywedodd Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru:
“Yr arolwg hwn yw eich cyfle i leisio’ch barn drwy ddweud wrthym am eich profiadau o weithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
“Ymatebodd mwy na 5,000 o bobl i arolwg y llynedd. Diolch i bob un ohonoch a gymerodd yr amser i ymateb.
“Fe wnaeth eich ymatebion dynnu sylw at eich ymrwymiad i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ac mae eich ymroddiad i unigolion a’u teuluoedd yn glir.
“Ond fe wnaethoch chi hefyd godi rhai materion pwysig iawn rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth i helpu i fynd i’r afael â nhw.
“Gallwch chi ddarganfod mwy am y camau rydyn ni’n eu cymryd gyda’n gilydd yng Nghynllun cyflawni gweithlu gofal cymdeithasol, neu yn ymateb ysgrifenedig y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i ganfyddiadau’r llynedd.
“Rydyn ni’n gwybod eich bod yn brysur, bod eich amser yn werthfawr ac na fydd cwblhau arolwg yn flaenoriaeth. Ond bydd cymryd yr amser i rannu eich barn yn ein helpu ni a’n partneriaid ehangach i ymateb i anghenion y gweithlu yn fwy effeithiol.
“Peidiwch â cholli’ch cyfle i ddweud eich dweud.”
Ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru i ddarganfod mwy, neu cwblhewch yr arolwg nawr.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle