5.3 C
Llanelli
Wednesday, February 4, 2026
Home Mid and West Wales Fire and Rescue Service Cynllunio ymlaen llaw ar gyfer ymarferiad ‘digwyddiad mawr’ i’w gynnal yn Sir...

Cynllunio ymlaen llaw ar gyfer ymarferiad ‘digwyddiad mawr’ i’w gynnal yn Sir Gaerfyrddin

0
400
MAWW Fire and Rescue Service Appliance
MAWW Fire and Rescue Service Appliance

Mid & W Wales Fire News

Ddydd Mawrth, 4 Chwefror, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ynghyd ag asiantaethau partner, yn cynnal ymarferiad amlasiantaeth i wirio a phrofi cynlluniau, protocolau a gweithdrefnau ymateb brys pe bai digwyddiad mawr, ar safle Rheilffordd Gwili yn Abergwili, Sir Gaerfyrddin.

Bydd llawer o gynrychiolwyr asiantaethau partner yn bresennol ac yn cymryd rhan yn yr ymarfer, gan gynnwys Heddlu Dyfed-PowysCyngor Sir CaerfyrddinBwrdd Iechyd Prifysgol Hywel DdaYsbyty Glangwili ac Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Bydd lefelau uwch o weithgarwch yn yr ardal ac o gwmpas Ysbyty Glangwili ar y diwrnod, rhwng 8am a 6pm ond gallwch fod yn dawel eich meddwl nad oes angen i chi boeni o gwbwl am hyn.

Dywedodd Pennaeth Rhanbarth y Gorllewin, Andrew Davies:

“Mae ymarferion amlasiantaeth yn gyfleoedd hyfforddi hanfodol er mwyn sicrhau bod ein cynlluniau brys yn gadarn a’n bod ni a’n hasiantaethau partner yn barod ar gyfer unrhyw ddigwyddiad mawr posibl a allai effeithio ar ein cymunedau.

Rydym yn gobeithio na fyddwn byth mewn sefyllfa lle mae angen defnyddio’r cynlluniau hyn mewn ymateb i ddigwyddiad go iawn, ond mae’n hynod bwysig ein bod yn barod i ymateb pe bai angen. Mae ymarferion fel hyn yn rhan bwysig o’n gwaith i gadw’r cyhoedd yn ddiogel, ac rydym yn gwerthfawrogi dealltwriaeth a chydweithrediad pawb.

Rydym am sicrhau preswylwyr mai gweithgaredd hyfforddi wedi’i gynllunio yw hwn ac nid digwyddiad byw.”

Bydd trefniadau ar gyfer yr ymarfer yn dechrau ddydd Llun 3 Chwefror yn Rheilffordd Gwili, a gofynnir i’r cyhoedd osgoi’r ardal tan ddydd Gwener. Ni fydd mynediad cyhoeddus i’r safle yn ystod y cyfnod hwn.  

Diolch i chi am eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad wrth i ni weithio i wella ein gallu i ymateb i sefyllfaoedd brys.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg – pressofficer@mawwfrs.gov.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.