10.1 C
Llanelli
Sunday, March 1, 2026
Home Newyddion Lle Wystrys brodorol Sir Benfro.

Wystrys brodorol Sir Benfro.

0
369
oysters 3
oysters 3

Pontŵn Iard Gychod Rudder yn Aberdaugleddau yw’r safle ar gyfer gwesty wystrys brodorol – sy’n ceisio gwrthdroi’r dirywiad yn nifer yr wystrys brodorol.

Mae niferoedd wystrys brodorol Prydain wedi dirywio’n ddramatig dros y degawdau, o ganlyniad i golli cynefinoedd, llygredd, gorgynaeafu a chlefydau.

Yn ystod ymweliad diweddar â Sir Benfro, gwelodd y Dirprwy Brif Weinidog gyda chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, y gwesty wystrys, sy’n rhan o brosiect i helpu i adfer eu niferoedd a chryfhau’r ecosystem forol yn Sir Benfro.

O dan y pontŵn ar Iard Gychod Rudders fe welodd y Dirprwy Brif Weinidog y cewyll wystrys – lle cedwir wystrys fel stoc mag i ryddhau larfa i’r aber i hybu’r boblogaeth bresennol.

Oysters

Mae’r gwaith yn rhan o’r bartneriaeth adfer natur uchelgeisiol 4 blynedd Natur am Byth a gydlynir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), i achub rhywogaethau mwyaf bregus Cymru.  Mae’r prosiect adfer wystrys brodorol yn cael ei arwain gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol o fewn y bartneriaeth. Nod y prosiect yw adfer stoc mag wystrys brodorol ac, yn y pen draw, gwelyau wystrys o fewn dyfrffordd Aberdaugleddau. Mae’n cynnwys rhaglen wyddoniaeth dinasyddion wystrys a hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy.

Mae’r prosiect yn cydweithio’n agos â Phrifysgol Bangor, a bydd ymchwil magu wystrys brodorol yn gweld 200,000 o wystrys ifanc yn cael eu defnyddio i hybu’r gweithgareddau adfer ym mis Chwefror 2025. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Swyddog ACA Forol Sir Benfro a Tethys Oysters ym Mae Angle, ac mae’n rhan o Tirweddau Cynaliadwy, Mannau Cynaliadwy a ariennir gan Lywodraeth Cymru – Elfen Carbon Glas Rhaglen Arfordir Gwyllt Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Oysters

Meddai’r Dirprwy Brif Weinidog, “Mae hon yn enghraifft wych o sut y gall sefydliadau amgylcheddol, gwirfoddolwyr a busnesau lleol helpu i warchod ac adfer rhywogaethau prin a hefyd gysylltu ein cymunedau gyda natur.

“Mae’r prosiect hwn hefyd yn dangos sut mae adfer natur yn darparu swyddi gwyrdd, yn cefnogi economïau lleol a thwf cynaliadwy mewn ardaloedd lleol i bobl leol.

“Mae’n ysbrydoli rhywun i weld y llwyddiant y mae’r tîm wedi’i gael ar y safle hwn ac dwi’n edrych ymlaen at glywed mwy am ddatblygiadau yn y dyfodol.”

Oysters

Dywedodd Sue Burton, Cydlynydd Rhanbarthol Sir Benfro Natur am Byth ar gyfer y Gymdeithas Cadwraeth Forol, “Mae’r gwaith wystrys brodorol hwn yn gam pwysig i adfer ein hamgylchedd morol. Ar un adeg roedd aber Afon Cleddau yn Sir Benfro yn gartref i gymuned lewyrchus o wystrys brodorol, rhywogaeth sy’n gallu adeiladu strwythurau riffiau naturiol pan fydd niferoedd uchel a gwella ansawdd dŵr trwy hidlo cannoedd o litrau o ddŵr y dydd. Trwy gryfhau’r boblogaeth wystrys frodorol, gobeithiwn roi hwb i adfer adeiladwr yr ecosystem naturiol hon”.

Meddai John Clark, rheolwr rhaglen Natur am Byth, “Mae ein partneriaeth adfer rhywogaethau yn cael ei gyrru gan gydweithio i achub anifeiliaid, planhigion a ffyngau sydd mewn perygl o fethu goroesi yng Nghymru. Mae sgiliau pob un o’r naw elusen a CNC wedi dod at ei gilydd i ysbrydoli gweithredu lleol dros natur mewn cymunedau ledled Cymru. Mae rhyddhau y wystrys brodorol hyn yn un o’n prosiectau mwyaf uchelgeisiol o fewn y bartneriaeth, ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth busnesau lleol a dyframaethu sydd wedi’i leoli yma yng Nghymru.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.