12.4 C
Llanelli
Saturday, May 30, 2026
Home Education Coleg Cambria Mae COLEG CAMBRIA wedi lansio cegin hyfforddi newydd o’r radd flaenaf mewn...

Mae COLEG CAMBRIA wedi lansio cegin hyfforddi newydd o’r radd flaenaf mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Addysg The Savoy.

2
731
SavoyLaunch2 scaled
SavoyLaunch2 scaled

Cafodd y cyfleuster blaengar ei ariannu’n rhannol gan yr Ymddiriedolaeth ac mae wedi’i leoli yn ymyl Bwyty Iâl yn adeilad Hafod (gwerth £21 miliwn) ar safle Wrecsam. 

Yn cael ei gyflwyno’n swyddogol gan Vicki Howells AS, Gwenidog Addysg Bellach ac Uwch, bydd y ‘cegin gynhwysol’ yn atgyfnerthu ymrwymiad Cambria i ddarparu cyfleoedd hygyrch i bawb ac yn helpu i hyfforddi cenhedlaeth o weithwyr proffesiynol yn y sector lletygarwch.

Meddai Maria Stevens, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol Coleg Cambria: “Rydym yn falch o ddathlu ein partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Addysg The Savoy lle rydym wedi cydweithio i gael cegin hyfforddiant cynhwysol, o’r radd flaenaf yma yn Iâl.

Savoy Launch

“Mae’r datblygiad cyffrous hwn yn nodi carreg filltir sylweddol yn ein hymrwymiad i addysg hygyrch ac o’r safon uchaf mewn lletygarwch ac arlwyo gan sicrhau fod yr holl ddysgwyr yn cael y cyfle i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y diwydiant. 

“Diolch i gyfraniad hael yr Ymddiriedolaeth (sydd wedi ariannu rhan o’r prosiect hwn) gall y coleg rŵan gynnig amgylchedd ddysgu fodern gyda chyfleusterau blaengar sy’n cwrdd ag anghenion yr holl ddysgwyr yn cynnwys y rheiny ag anghenion cymorth ychwanegol. 

“Trwy weithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth mae Coleg Cambria yn sicrhau fod y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol lletygarwch yng Ngogledd Cymru a thu hwnt yn derbyn yr hyfforddiant gorau posib ac yn eu paratoi nhw am yrfaoedd gwobrwyol mewn diwydiant sy’n esblygu.”

Ychwanegodd Kate Muddiman, Rheolwr Dysgu yn y Gwaith Cambria:  “Mae’r cyfleuster gwych yn ein galluogi ni i ehangu ein cynnig gyda gweithdai arbenigol ar gyfer gweithwyr a’u staff yn cynnwys gweithdai sgiliau defnyddio cyllyll, pobi a gwneud selsig. 

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Addysg The Savoy am eu cefnogaeth yn ein helpu i ddyrchafu hyfforddiant lletygarwch i’r lefel nesaf.”

Savoy Launch

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Addysg The Savoy ym 1961 ac mae ganddi hanes o hybu addysg a hyfforddiant yn y sector lletygarwch.

Fel ymddiriedolaeth elusennol annibynnol maen nhw wedi ymrwymo i ariannu mentrau sy’n gwella cyfleoedd dysgu mewn arlwyo a lletygarwch, gan gyfarparu unigolion gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd ei angen i ffynnu yn y diwydiant. 

Trwy ddosbarthu grantiau maen nhw’n cefnogi prosiectau sy’n gwella cyfleusterau ac yn darparu hyfforddiant ymarferol ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth newydd o weithwyr proffesiynol mewn lletygarwch.

Savoy Launch

Meddai Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth, Angela Maher: “Rydym wedi ymrwymo i gefnogi addysg hygyrch ac o safon uchel sy’n meithrin dyfodol lletygarwch ac rydym yn falch o helpu i ariannu cegin hyfforddi o’r radd flaenaf yng Ngholeg Cambria. Bydd y gegin hon yn sicrhau fod cyfle i bob dysgwr, beth bynnag eu cefndir neu allu, i ddatblygu sgiliau sy’n barod ar gyfer y diwydiant, cyflawni cymwysterau a chael eu hysbrydoli i ddilyn gyrfa yn y sector lletygarwch.

“Mae’r prosiect hwn yn tynnu sylw at ein hymroddiad ar y cyd i addysg lletygarwch rhagorol ac ysbrydoli talent y dyfodol.”

Ewch i Ymddiriedolaeth Addysg Savoy – Datblygu addysg, hyfforddiant a chymwysterau er budd diwydiant lletygarwch y DU am fwy o wybodaeth.

Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here