Cydweithredu arloesol yn arwain at leihau allyriadau carbon wrth dyfu’r diwydiant bwyd a diod

0
190
Royal Welsh Show Ground, Builth Wells. Winter Fair 2024. Carbon reduction initiatives that Welsh food and drink suppliers to Tesco have been undertaking with the assistance of the Welsh Government. Picture by Phil Blagg Photography. PB198-2024

Mae’r brand archfarchnad blaenllaw Tesco, a llawer o’i gyflenwyr Cymreig, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar raglen arloesol i helpu busnesau bwyd a diod i leihau eu hôl troed carbon a thyfu’n gynaliadwy.

Mae’r cydweithio arloesol hwn rhwng y llywodraeth, busnesau ac adwerthwyr yn cymryd camau breision tuag at gyrraedd sero net yn y diwydiant bwyd a diod.

Cefnogir y fenter gan dros gant o gwmnïau bwyd a diod Cymreig, gan gynnwys enwau cyfarwydd fel Authentic Curry Company, Penderyn, Edwards – Cigydd Cymru, ac Ellis Eggs.

Mae’r cynllun peilot yn helpu busnesau i fesur a lleihau eu hallyriadau carbon, y mae defnyddwyr a sefydliadau ariannol yn galw amdano fwyfwy. Mae tri cham i’r peilot:

1. Sefydlu Protocolau: Teilwra protocolau mesur carbon ar gyfer busnesau Cymru.

2. Gosod Llinellau Sylfaen: Defnyddio offeryn dal carbon i sefydlu llinellau sylfaen allyriadau.

3. Creu Cynlluniau Lleihau: Datblygu strategaethau lleihau carbon sy’n benodol i’r diwydiant dan arweiniad arbenigwyr.

Pwysleisiodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, bwysigrwydd y cydweithio hwn: “Mae’r rhaglen beilot hon yn gam sylweddol i ddiwydiant bwyd a diod Cymru. Mae cefnogaeth Tesco yn amhrisiadwy o ran rhoi’r offer i fusnesau fesur a lleihau eu hôl troed carbon, gan wella cystadleurwydd a chynaliadwyedd.”

Mae Tesco, sydd wedi ymrwymo i gyflawni sero net ar draws ei gadwyn werth erbyn 2050, eisoes wedi lleihau ei allyriadau gweithredol 61% ers 2015.

Dywedodd Enfys Fox, Rheolwr Perthnasoedd ar gyfer Cyrchu Lleol yn Tesco, “Mae Tesco wedi ymrwymo i adeiladu system fwyd fwy cynaliadwy, ac rydyn ni’n falch o weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ar y rhaglen beilot drawsnewidiol hon.

“Rydyn ni’n cydnabod y rhan sydd gan ddiwydiant i’w chwarae wrth helpu i leihau allyriadau carbon. Drwy gefnogi ein cyflenwyr i sefydlu eu heffaith a darparu strategaethau y gellir eu gweithredu, rydyn ni’n cymryd camau pwysig i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant.”

Tynnodd Simon James, Rheolwr Gyfarwyddwr Edwards – Cigydd Cymru, sylw at y manteision busnes: “Mae cymryd rhan yn y cynllun peilot hwn yn ein helpu i osod llinell sylfaen ar gyfer ein hallyriadau a datblygu strategaethau i’w lleihau. Mae arferion cynaliadwy yn hanfodol ar gyfer ennill contractau cyflenwi yn y dyfodol.”

Mae’r rhaglen hon yn creu glasbrint ar gyfer cynyddu mentrau lleihau carbon ar draws diwydiant bwyd a diod Cymru.

Mae’r manteision yn niferus. Mae busnesau sy’n cymryd rhan yn cael eu cefnogi i sefydlu protocolau a lleihau eu hallyriadau carbon a fydd yn cryfhau eu sefyllfa wrth geisio cyllid ar gyfer twf.

Wrth ymdrin â cheisiadau am fenthyciadau, mae sefydliadau ariannol yn aml yn ceisio tystiolaeth bod busnesau wir yn mesur eu hallyriadau carbon. Mae’r rhaglen beilot yn cynnig y sicrwydd hwn drwy ddarparu fframwaith strwythuredig ar gyfer olrhain ac adrodd ar allyriadau, gan arfogi busnesau â data credadwy i ddangos eu hymrwymiad i gynaliadwyedd.

Trwy asesiadau wedi’u dilysu a dogfennaeth glir, gall cyfranogwyr gyflwyno eu cynnydd yn hyderus, gan gryfhau eu hachos dros sicrhau cymorth ariannol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i llyw.cymru/bwydadiodcymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here