8.4 C
Llanelli
Friday, February 27, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Taith gerdded noddedig a dringo mynydd yn codi £4,500 i Llwynhelyg

Taith gerdded noddedig a dringo mynydd yn codi £4,500 i Llwynhelyg

0
438
image002
image002

Mae Gerald a Diane Rogers, o Saundersfoot, wedi codi £4,500 i Ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg er cof am eu merch, Julie Gwendoline Rose Rogers.

Cynhaliodd Mr. a Mrs. Rogers a’u teulu daith gerdded noddedig a dringo’r Wyddfa. Cododd Gerald arian hefyd drwy wisgo fel Siôn Corn am flynyddoedd lawer yn eu pentref lleol, Saundersfoot, gan ymweld â chartrefi gofal a digwyddiadau pentref.

 Dywedodd Gerald: “Diolch i’r staff ar Ward 10 am y gofal gwych a gafodd ein merch, Julie. Dyma ein ffordd ni o ddweud diolch a rhoi yn ôl i’r Ward oedd yn gofalu mor dda am Julie. Diolch i bawb a gyfrannodd hefyd, mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr.”

 Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn i Gerald a Diane am godi swm gwych i Ward 10, mae’n deyrnged hyfryd i’w diweddar ferch, Julie. Bydd eich cefnogaeth yn gwneud cymaint o wahaniaeth i gleifion, teuluoedd a staff ar Ward 10.

 “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.