Bydd toriadau yn cael effaith âanghymesurâ ar Gymru â Heledd Fychan
Mae Plaid Cymru wedi galw am ddadl frys yn y Senedd ar Ă´l i Ganghellor Llafur y DU gyhoeddi biliynau mewn toriadau lles.
Dywedodd llefarydd cyllid Plaid Cymru, Heledd Fychan, fod yn rhaid iâr Prif Weinidog Eluned Morgan ânodi ar fyrderâ sut y bydd yn amddiffyn Cymru rhag y toriadau a wnaed i les gan ei chydweithwyr Llafur.
Dywedodd Plaid Cymru y byddai Cymruân cael ei heffeithio fwyfwy gan y toriadau, gan fod gan y wlad gyfraddau uwch o bobl anabl o oedran gweithio na chyfartaledd y DU a rhai oâr lefelau uchaf o anweithgarwch economaidd oherwydd salwch tymor hir.
Gan gyhuddo Llafur o dargeduâr âmwyaf bregusâ yn hytrach na threthuâr âhynod gyfoethogâ, dywedodd Ms Fychan na allaiâr Prif Weinidog Llafur âaros yn dawelâ a gofynnodd iddi amlinellu pa fesurau lliniaru yr oedd ei llywodraeth wediâu rhoi ar waith ochr yn ochr ag unrhyw sylwadau brys a wnaed i âamddiffyn pobol Cymruâ.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, Heledd Fychan AS,
âDoes dim amheuaeth bod cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Lafur y DU yn nodi parhad o lymder.
âYn hytrach na threthuâr cyfoethog iawn, mae Llafur wedi dewis targeduâr rhai mwyaf bregus, gan orfodi toriadau lles dyfnach fyth a fydd yn gyrru tlodi ac anghydraddoldeb yng Nghymruâgan danseilioâr union dwf economaidd y maent yn honni ei fod yn ei gefnogi.
âO ystyried maint y toriadau hyn aâu heffaith ar ein cymunedau, mae dadl frys yn ystod amser y llywodraeth yr wythnos nesaf yn hanfodol. Rhaid i Brif Weinidog Llafur egluro ar fyrder sut y bydd yn amddiffyn Cymru rhag canlyniadau dinistriol penderfyniadau ei phlaid ei hun.
âBydd Cymruân cael ei heffeithioân anghymesur, gyda chyfraddau uwch o bobl anabl o oedran gweithio na chyfartaledd y DU a rhai oâr lefelau uchaf o anweithgarwch economaidd oherwydd salwch hirdymor.
“Ni all y Prif Weinidog aros yn dawel tra bod ei phlaid yn San Steffan yn gorfodiâr toriadau creulon hyn. Os ywâr âbartneriaeth mewn grymâ bondigrybwyll rhwng y ddwy lywodraeth i olygu unrhyw beth, rhaid iddi ateb: Beth oedd hiân ei wybod am y toriadau hyn cyn heddiw? Pa fesurau lliniaru, os o gwbl, y mae ei llywodraeth wediâu rhoi ar waith? A pha sylwadau brys y mae wediâu gwneud i Lywodraeth y DU i amddiffyn pobl Cymru?”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle
Hola! I’ve been reading ypur site ffor ome tjme
now andd finally got tthe copurage to goo ahead and givve you
a shhout ouut from Austin Tx! Jusst wanted too mention keep up the grezt job!