£5m i wneud meysydd chwarae a mannau chwarae yn hwyliog

0
294

Bydd meysydd chwarae a mannau chwarae i blant ledled Cymru yn cael eu gwella fel bod pobl ifanc yn cael gwell cyfleoedd i chwarae yn eu cymunedau lleol.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £5m ychwanegol i awdurdodau lleol brynu eitemau i wella ansawdd mannau chwarae, adnewyddu meysydd chwarae a chefnogi’r gwaith o greu mannau chwarae cynhwysol a hygyrch.

Mae chwarae yn effeithio’n gadarnhaol ar blant a theuluoedd ac mae’n hanfodol yn natblygiad plentyn, gan eu helpu i fagu eu hyder, eu gwydnwch a’u hunan-barch.

Wrth ystyried eu cynigion, gofynnir i awdurdodau lleol gasglu barn pobl, gan gynnwys plant a’u teuluoedd, ar y ddarpariaeth chwarae yn eu hardal; ystyried cyfleoedd chwarae sy’n gynhwysol ac yn annog pob plentyn i chwarae a chwrdd â’i gilydd, a gwella mynediad a diogelwch.

Ymwelodd y Gweinidog Plant, Dawn Bowden, â maes chwarae Lôn Maes William a gafodd ei adnewyddu yn Nhrefynwy, lle cyfarfu â rhieni a phlant sy’n elwa ar y cyfleusterau.

Mae cyllid o’r Gronfa Teithio Llesol wedi cael ei ddefnyddio i wella’r maes chwarae drwy gynllun teithio llesol Lôn Maes William. Mae hyn wedi cynnwys cymysgedd o waith plannu, mannau chwarae ecogyfeillgar naturiol a gosod offer fel siglenni a llu o offer ecogyfeillgar, fel tai draenogod, ar gyfer datblygiad plant. 

Mae’r man chwarae hefyd yn cael ei ddefnyddio fel Ysgol Goedwig ac ar gyfer gwaith ecolegol gan Ysgol Gynradd Overmonnow, gyda’r rhwydwaith Teithio Llesol yn darparu mynediad diogel.

Dywedodd rhiant y mae ei blentyn yn mynd i Ysgol Gynradd Overmonnow: “Rydyn ni’n defnyddio’r parc bob dydd ar ôl ysgol, mae’n hyfryd gadael i’r plant chwarae gyda’i gilydd ac ymlacio ar ôl y diwrnod ysgol.”

Dywedodd rhiant arall: “Mae’r parc yn braf, yn enwedig os ydyn ni ychydig yn gynnar, yna gallwn ei ddefnyddio. Hefyd, ar ddiwedd y diwrnod ysgol mae’r parc yn lle braf i alw heibio iddo.”

Dywedodd y Gweinidog Plant, Dawn Bowden: “Rydyn ni eisiau Cymru lle mae pob plentyn yn teimlo’n iach yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol ac yn gallu cael mynediad at eu hawl i chwarae.

“Mae meysydd chwarae, fel maes chwarae Lôn Maes William, yn lleoedd gwych i blant chwarae, gwneud ffrindiau a mwynhau eu hunain.

“Y mis hwn rydyn ni’n dathlu Diwrnod Cenedlaethol y Plant. Bydd y cyllid hwn yn gwella profiadau plant ac yn eu helpu i fagu hyder a datblygu eu sgiliau.

“Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i gefnogi ein huchelgeisiau i wella cyfleoedd i chwarae, a hyrwyddo manteision chwarae er lles plant.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant: “Trwy weithio’n agos gydag awdurdodau lleol, rydym yn helpu i sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael mynediad at leoedd diogel a diddorol i chwarae ynddynt, yn enwedig mewn ardaloedd lle gall teuluoedd wynebu heriau ychwanegol.

“Mae ein buddsoddiad o £5m yn yr asedau cymunedol hanfodol hyn yn fwy na dim ond gwella meysydd chwarae. Mae’n ymwneud â buddsoddi yn natblygiad a lles ein plant – ac adeiladu cymunedau cryfach, sydd wedi’u cysylltu’n well ledled Cymru.”

Sicrhawyd y cyllid hwn drwy gytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Jane Dodds, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here