Datblygu Cwrs Prentisiaeth Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod Newydd mewn Cydweithrediad â Choleg Sir Benfro

0
870
Huw Irranca Davies MS Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs (Landscape)

Mae Coleg Sir Benfro, mewn cydweithrediad â rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, yn falch o gyhoeddi lansio cwrs Prentisiaeth Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod newydd. Mae’r fenter yn deillio o drafodaethau yng Ngrŵp Arbenigwyr rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru lle nodwyd bylchau sgiliau yn y maes hwn, a’i nod yw diwallu’r galw cynyddol am beirianwyr medrus yn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod.

Dywedodd Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:

“Rwyf wrth fy modd yn clywed am y cwrs Prentisiaeth newydd yng Ngholeg Sir Benfro, a gyflwynir mewn partneriaeth â rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru. Mae’r fenter hon yn gam gwych ymlaen wrth adeiladu gweithlu medrus ar gyfer y sectorau cynhyrchu a gweithgynhyrchu bwyd a diod hanfodol yng Nghymru. Drwy ddarparu hyfforddiant ymarferol, bydd y cwrs hwn yn rhoi’r arbenigedd sydd ei angen ar unigolion i ffynnu yn y diwydiannau hyn, gan sicrhau dyfodol cryf a chynaliadwy i’n tirwedd bwyd a diod yng Nghymru.”

Bydd y cwrs yn dechrau ym mis Medi 2025 ar Gampws Hwlffordd y Coleg. Mae’r brentisiaeth tair blynedd hon yn cynnig cwricwlwm ymarferol, sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar brentisiaid i gynnal a gwneud y gorau o beiriannau cynhyrchu bwyd a diod.

Dywedodd Lois Pugh, Rheolwr Datblygu’r Gweithlu sydd wedi bod ar flaen y gad mewn trafodaethau ar ran rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru:

“Rwy’n gyffrous i weld lansio’r cwrs hwn fel canlyniad uniongyrchol i drafodaethau yng Ngrŵp Arbenigol rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru ac i barhau i eiriol dros y cyfle prentisiaeth, gyda ffocws cryf ar annog busnesau ledled De-orllewin Cymru i gymryd rhan a chefnogi’r fenter newydd hanfodol hon.”

Fel rhan o’r fenter, mae Coleg Sir Benfro yn edrych i recriwtio myfyrwyr i gymryd rhan yn y rhaglen prentisiaethau. Bydd busnesau’n cael eu gwahodd i bartneru â’r Coleg, gan roi profiad gwerthfawr ar y gwaith i brentisiaid.

Dywedodd Dr Barry Walters, Pennaeth Coleg Sir Benfro:

“Mae Coleg Sir Benfro wrth ei fodd yn lansio’r Brentisiaeth Cynnal a Chadw Peirianneg ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod ym mis Medi. Mae galw mawr am beirianwyr medrus yn y sector hwn, ac rydym yn falch o ehangu ein portffolio prentisiaethau presennol i gefnogi anghenion sgiliau ein partneriaid yn y diwydiant yn well.”

Bydd Cymwysterau Bwyd a Diod / Food and Drink Qualifications (FDQ) yn gosod yr aseiniadau ar gyfer y cwrs, ar ôl hwyluso’r perthnasoedd a’r cydweithrediadau allweddol sy’n angenrheidiol ar gyfer ei sefydlu llwyddiannus a sicrhau bod prentisiaid yn derbyn hyfforddiant perthnasol o ansawdd uchel sy’n bodloni safonau’r diwydiant.

Mae’r rhaglen brentisiaeth newydd hon yn adlewyrchu ymrwymiad rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru i gefnogi twf a datblygiad y diwydiant bwyd a diod trwy feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr peirianneg proffesiynol.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here